Ydych chi’n chwilio am ffordd i ennill profiad yn y sector creadigol neu a ydych eisiau bod yn rhan o gymuned celfyddyd Wrecsam a datblygu sgiliau newydd ar gyfer y byd gwaith? Neu a ydych eisiau cyfarfod pobl newydd?
Os felly, pam na wnewch chi wirfoddoli i gefnogi’r brif arddangosfa nesaf yn Nhŷ Pawb – Wrecsam Agored 2018.
Mae Wrecsam Agored yn brosiect a gaiff ei gynnal ar y cyd rhwng Tŷ Pawb, Undegun Arts Space gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Prosiect THIS ac East Street Arts.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Cynhelir yr arddangosfa mewn tair ystafell oriel dros y ddau leoliad (Tŷ Pawb ac Undegun) ac mae’n cael ei gynnal o 12 Hydref tan 16 Rhagfyr.
“Croesawu ymwelwyr i’r oriel“
Os hoffech chi wirfoddoli, bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn siarad â’r cyhoedd ac yn gallu dangos bod gennych ddiddordeb mawr yn y celfyddydau gweledol. Byddai disgwyl i chi groesawu ymwelwyr i’r oriel, darparu gwybodaeth am sut i bleidleisio ar gyfer eu hoff waith celf i ennill Gwobr Barn y Bobl a rhoi gwybod iddynt am raglen digwyddiadau Wrecsam Agored.
Mae orielau Tŷ Pawb yn agored 7 diwrnod yr wythnos, felly gallwch wirfoddoli pan fydd yn gyfleus i chi.
Oes gennych chi ddiddordeb? Os felly, pam na wnewch chi anfon e-bost at heather.wilson@wrexham.gov.uk i fynegi eich diddordeb?
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION