Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam i groesawu cychwyn a diwedd y Daith ar yr ail gymal
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam i groesawu cychwyn a diwedd y Daith ar yr ail gymal
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam i groesawu cychwyn a diwedd y Daith ar yr ail gymal

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 31, 2023 4:41 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Tour of Britain cyclists
RHANNU

Ar 24 Ebrill eleni, cyhoeddwyd y byddai beicwyr gorau’r byd yn dychwelyd i Wrecsam gyda Thaith Prydain yn ymweld â ni ar 4/09/23 Beicwyr Gorau’r byd yn dychwelyd i Wrecsam eleni – Newyddion Cyngor Wrecsam pan wnaethom gadarnhau bydd y cam gorffen yn ymweld.

Ers hynny mae’r trafodaethau wedi datblygu ac mae Wrecsam mewn sefyllfa unigryw yn Nhaith 2023 gan mai dyma’r unig ranbarth i gynnal cychwyn a diwedd y ras.

Bydd cynnal cychwyn a diwedd y ras yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu dod i mewn i Wrecsam ac i fwynhau’r sioe, ac am gyfnod hirach. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn golygu mwy o bobl yn aros yn lleol ac yn gwario yn Wrecsam, yn arbennig o fewn lletygarwch.

Hyrwyddo’r Daith

Rydym eisoes wedi dechrau hyrwyddo gyda thaith Beicio Cymru yn ei Blodau yng Nghanol Dinas Wrecsam. Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau – Newyddion Cyngor Wrecsam

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol a fydd yn annog cyfranogiad cyn ac yn ystod y daith. Hefyd, byddwn yn defnyddio’r digwyddiad i hyrwyddo ac annog teithio llesol o fewn y Ddinas a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bydd cael digwyddiadau fel hyn yn y rhanbarth yn rhoi hwb i chwaraeon yn lleol, ac rydym yn disgwyl y bydd ymwybyddiaeth a brwdfrydedd i feicio yn cynyddu, ac yn cael effaith hir dymor ar ddechrau a chymryd rhan yn rhanbarthol ar ôl i’r digwyddiad ymweld. Mae hyn yn cynnwys o fewn ein hysgolion.

Byddwn yn cynyddu ein hyrwyddiad, ymgysylltiad cyhoeddus ac ymwybyddiaeth gyda’r digwyddiad yn ogystal ag agweddau iechyd a lles ffordd o fyw iach, a byw’n iach fel bydd y digwyddiad yn nesau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’n partner Taith Prydain a fydd yn darparu llawer iawn o’r deunyddiau hyrwyddo.

Mae nifer o ysgolion yn y sir ar ddiwrnod hyfforddiant neu ddiwrnod cyntaf yn ôl ar ôl y gwyliau, a gall hyn gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan. Fodd bynnag, byddwn yn annog teuluoedd i fynychu, yn ogystal ag annog ysgolion gymryd rhan lle bo modd.

Byddwn yn ymgysylltu gyda busnesau yn y ddinas hefyd a’r rheiny sydd yn cael eu heffeithio gan y daith, fel eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod, gan gynnwys trefniadau parcio amgen.

Wrecsam i groesawu cychwyn a diwedd y Daith ar yr ail gymal

Beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod

Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ar y diwrnod o amgylch pentref y daith (yn Llwyn Isaf) – bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau a stondinau gyda thema beicio. Rydym dal yn gweithio gyda rhanddeiliaid a sefydliadau eraill i gwblhau rhaglen o ddigwyddiadau ac ymgysylltiad.

Llwybr y Daith

Bydd y daith yn dechrau a gorffen ar Stryd Caer a byddwn yn annog pawb sydd yn gallu i ymweld â chanol y ddinas a mwynhau’r awyrgylch. Fodd bynnag, efallai byddwch yn gallu gweld ychydig o’r ras yn ymyl eich cartref drwy edrych ar fap o’r daith:

Cam 2 Wrecsam- Wrexham v7 on gpx2kml.com – Free online gpx to kml converter

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam:  “Mae cynnal y ddau gam, dechrau a diwedd Taith Prydain yn rhoi sylw chwaraeon ar Wrecsam eto.

“Fel dinas fwyaf newydd yng Nghymru, a gyda’n huchelgeisiau o fod yn Ddinas Diwylliant 2029, mae’n bwysig atynnu digwyddiadau mawr sydd yn tynnu cynulleidfaoedd rhyngwladol.”

“Chewch chi ddim gwell na hynny, a bydd y digwyddiad yn dod â budd enfawr i’r economi leol – gan helpu i godi proffil Wrecsam fel lle i gynnal digwyddiadau mawr, a dod â mwy o bobl i ganol y ddinas.”

Tour of Britain in Wrexham
TAGGED:seiclowrecsamwrexhamY Daith
Rhannu
Erthygl flaenorol Marlin Industries Marlin Industries – yn Wrecsam ers dros 30 mlynedd
Erthygl nesaf Bus parade route showing St Giles EISTEDDFOD 2025 I’W CHYNNAL YN WRECSAM

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English