Dewch i gael blas o’r Eisteddfod mewn digwyddiad am ddim i’r teulu cyfan y penwythnos yma.
Cynhelir Gŵyl yr Hydref ar draws y ddinas ar 4-5 Hydref, ac mae’n flas o’r hyn i’w ddisgwyl pan ddaw’r Eisteddfod i ardal Wrecsam o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf..
Trefnir y digwyddiad gan yr Eisteddfod gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam, ac mae’r rhaglen llawn yn cynnwys cerddoriaeth a dawns fyw, gweithgareddau plant, perfformiadau gan ysgolion lleol, gweithdai dawns a drymio, celf a chrefft a llawer mwy – gyda’r cyfan yn rhad ac am ddim.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydyn ni’n lansio blwyddyn yr Eisteddfod gyda Gŵyl yr Hydref yn Wrecsam dros y penwythnos. Ddydd Sul, bydd hi’n 300 diwrnod tan i’r Eisteddfod gychwyn, felly mae’r amseru’n berffaith ar gyfer penwythnos o weithgareddau i’r teulu cyfan.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi blas o’r Brifwyl i bawb, a bydd digon o gyfle i glywed mwy am ein cynlluniau ni dros y flwyddyn nesaf ac i ymuno â’r criw sy’n trefnu’r gweithgareddau i gyd yn lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr yr Iaith Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Gyda llai na blwyddyn i fynd nes bod Wrecsam yn croesawu’r digwyddiad diwylliannol mwyaf yn Ewrop, mae’r cyffro yn dechrau cynyddu.“Bydd Gŵyl yr Hydref yn gyfle delfrydol i gael blas o’r Eisteddfod, os ydych chi’n eisteddfodwr selog neu os nad ydych chi wedi bod i’r ŵyl o’r blaen, ac yn ddathliad o gelfyddyd, iaith a diwylliant Cymru gyda digon i’w fwynhau ar gyfer bob oed. Byddwn yn annog pawb i ddod i gymryd rhan yn yr hyn sy’n argoeli i fod yn benwythnos gwych o weithgareddau.”