Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau

Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes

Diweddarwyd diwethaf: 2025/07/09 at 4:09 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
RHANNU

Mae Eisteddfod Wrecsam 2025 yn rhedeg o Awst 2 tan Awst 9. Mae’n un o’r gwyliau mwyaf yn Ewrop, ac yn ddathliad enfawr o iaith a diwylliant Cymru.

Cynnwys
Manylion ar sut i gyrraedd Maes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam…Trafnidiaeth gyhoeddusTrenauBysiauBysiau gwennol rhwng y Maes a’r ddinasCyrraedd mewn carParcioMannau gollwng

Manylion ar sut i gyrraedd Maes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam…

Trafnidiaeth gyhoeddus

Trenau

Mae gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol yn un o’r prif orsafoedd ar y daith o ogledd i dde Cymru, ac mae hefyd yn cysylltu â phrif lein gogledd Cymru drwy wasanaeth Wrecsam i Bidston – gyda threnau’n cyrraedd a gadael yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr i’r nos.

Ewch i https://trc.cymru/ am ragor o wybodaeth ar y gwasanaeth trenau. Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan Traveline Cymru, https://www.cymraeg.traveline.cymru i gynllunio eich taith.

Bysiau

Mae gan ardal Wrecsam rwydwaith eang o fysiau cyhoeddus yn rhedeg drwy’r dydd a chyda’r nos.

Mae rhagor o wybodaeth am fysiau ardal Wrecsam yma, https://www.cymraeg.traveline.cymru, a gallwch ddefnyddio’r wefan hon i gynllunio’ch taith.

Bydd gwasanaeth TrawsCymru T3 hefyd yn gwasanaethu’r Maes bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam. Mae’r gwasanaeth T3 yn sicrhau taith uniongyrchol i’r Maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen.

Bysiau gwennol rhwng y Maes a’r ddinas

Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas a’r Maes drwy gydol y dydd ac yn hwyr i’r nos.

Mae’r rhain yn fysiau lefel-isel, sy’n addas i gadeiriau olwyn.

Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn yn fuan.

Public transport

Cyrraedd mewn car

Gorfod teithio mewn car i’r Eisteddfod? Gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn yr arwyddion ‘Eisteddfod’ melyn i gyrraedd y Maes.

Mae’r arwyddion wedi’u gosod er mwyn hwyluso traffig, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r Cyngor lleol a’r gwasanaethau brys ac argyfwng, ac mae ein cynllun trafnidiaeth wedi’i greu er mwyn eich helpu chi i’n cyrraedd mor hawdd a diogel â phosibl.

Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â’r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam.

Bydd yr arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y Maes o gyffordd 6, A483 (Gresffordd).

Bydd traffig o’r A55 yn dilyn yr arwyddion o oleuadau traffig cyffordd yr A483 a’r B5445 (Belgrave) yn cael ei arwain i’r de i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.

Bydd traffig o gyfeiriad Yr Wyddgrug ar yr A541 (cyffordd 5, A483), ardal Rhuthun ar yr A525 (cyffordd 4, A483), ardal Rhosllannerchrugog ar y B5605 (cyffordd 3, A483), Johnstown ar y B5426, Ffordd Bangor (cyffordd 2, A483) ac ardal Llangollen / Dyffryn Ceiriog ar yr A5 (cyffordd 1, A483) yn cael ei arwain i’r gogledd i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.

Bydd traffig o gyfeiriad Croesoswallt ar yr A5 (gan gynnwys traffig o dde Cymru), yn gadael yr A483 ar gyffordd 6 (Gresffordd).

Bydd traffig o Fangor is y Coed yn dilyn yr arwyddion o ochr dde stad ddiwydiannol Wrecsam wrth oleuadau traffig Lôn Groes (Cross Lanes). Bydd traffig yn cael ei gyfeirio i’r dde ar y B5130 tuag at Yr Holt, gan basio drwy Talwrn a Bowling Bank cyn troi i’r chwith ar Ffordd Ridley Wood.

Parcio

Dilynwch yr arwyddion i’r meysydd parcio a pheidiwch â pharcio wrth ochr y ffordd.

Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn y Maes Parcio. Maen nhw yno i helpu ac i’ch hwyluso wrth i chi gyrraedd a gadael y maes parcio. Mae Parcio AM DDIM.

Dylai ymwelwyr anabl gyda bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i’r maes parcio anabl.

Mannau gollwng

Bydd man penodol ar gyfer bysiau a thacsis er mwyn codi a gollwng teithwyr yn agos at y fynedfa i’r Maes. Bydd arwyddion clir i’ch arwain yno.

Rhannu
Erthygl flaenorol Waste Collections Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11
Erthygl nesaf wrexham library Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Chwefror 20, 2026
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau Chwefror 20, 2026
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle Chwefror 19, 2026
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle Chwefror 16, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dementia
Digwyddiadau

Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!

Chwefror 20, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas

Chwefror 10, 2026
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
DigwyddiadauPobl a lleYn cael sylw arbennig

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Chwefror 5, 2026
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau

Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!

Chwefror 4, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English