Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo terfyn cyflymder diofyn o 20mya, a fydd yn dod i rym ar draws Cymru ar 17 Medi 2023. Mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru weithredu’r fenter hon, a fydd yn gweld y rhan fwyaf o’r ffyrdd 30mya diofyn presennol yn cael eu gwneud yn rhai 20mya. Ar y cyfan, bydd yn berthnasol i ffyrdd sydd â goleuadau stryd.
Gydag ychydig dros fis tan fabwysiadu’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yng Nghymru, mae Cyngor Wrecsam wedi cyrraedd y cam allweddol nesaf – pan gewch chi ddweud eich dweud ar y ffyrdd arfaethedig sydd wedi’u heithrio rhag y terfyn cyflymder diofyn a’r ffyrdd arfaethedig a fydd yn cael eu gwneud yn rhai 20mya dan y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.
Nid yw’r ymgynghoriad yn ymwneud â newid y terfyn cyflymder diofyn i 20mya yng Nghymru – mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno ar y newid deddfwriaethol hwnnw.
Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â ffyrdd sydd angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig er mwyn newid y terfyn cyflymder o 20mya, neu gadw’r terfyn cyflymder 30mya. Bydd yr holl ffyrdd 30mya eraill yn newid yn awtomatig i rai 20mya ar 17 Medi 2023.
Cafodd 10 o ffyrdd eu nodi
Fel rhan o’r broses i fabwysiadu’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya fis Medi, mae Cyngor Wrecsam wedi nodi ffyrdd 30mya sydd i’w heithrio rhag y newidiadau gan nad ydynt yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru. Mae yna 10 ffordd wedi’u nodi ac, os cytunir, bydd y ffyrdd hyn yn cadw eu terfyn cyflymder 30mya ar ôl 17 Medi. Mae’r rhain yn bennaf yn glustogfeydd lle ceir gostyngiad yn y cyflymder o’r terfyn cyflymder cenedlaethol i 20mya.
Ni fydd y newid i ddeddfwriaeth LlC yn newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd 30mya ar hyn o bryd yn awtomatig yn rhinwedd gorchymyn rheoleiddio Traffig lleol. Felly, rydym hefyd wedi adolygu’r holl Orchmynion Rheoli Traffig 30mya presennol ac yn cynnig 28 lleoliad lle caiff y Gorchymyn Rheoli Traffig 30mya presennol ei newid i 20mya. Mae’r lleoliadau hyn yn rhai y teimlwn y bydd newidiadau yn gwella diogelwch a chyflwr ffyrdd, ac er mwyn osgoi unrhyw faterion posibl a achosir gan newid y terfyn cyflymder cenedlaethol.
Mae’r cyfnod ymgynghori bellach ar agor ac yn dod i ben ar 1 Medi 2023 – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich sylwadau cyn y dyddiad cau. I wybod ble mae’r eithriadau arfaethedig, ac i gael dweud eich dweud, ewch i dudalen ymgynghoriad Eich Llais Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae cyflwyno terfyn cyflymder diofyn 20mya Llywodraeth Cymru yn newid mawr i Wrecsam, ac i Gymru, ac er nad oes modd i ni ddylanwadu ar y newid cenedlaethol yn lleol, mae’n bwysig bod trigolion yn gallu dweud eu dweud ar y trefniadau eithrio lleol hyn. Rwy’n annog cymaint o drigolion â phosibl i edrych ar yr ymgynghoriad a rhannu eu barn gyda ni ynglŷn â’r eithriadau y mae Cyngor Wrecsam yn eu cynnig.”
Os hoffech chi ddarparu adborth ar y Gorchymyn arfaethedig yn ysgrifenedig, gan nodi eich barn neu’ch gwrthwynebiadau, anfonwch e-bost i traffic@wrexham.gov.uk neu lythyr at sylw Prif Swyddog Adran yr Amgylchedd a Thechnegol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, De Ffordd yr Abaty, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW.
Os hoffech chi ddysgu mwy am y terfyn cyflymder diofyn o 20mya, dilynwch y dolenni isod i wefan Llywodraeth Cymru:
- Cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya
- Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin
- Ymchwil i agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.