Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynnydd sylweddol o ran materion ffosffadau yn caniatáu i Wrecsam ddechrau gweithio trwy ôl-groniad cynllunio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cynnydd sylweddol o ran materion ffosffadau yn caniatáu i Wrecsam ddechrau gweithio trwy ôl-groniad cynllunio
Y cyngor

Cynnydd sylweddol o ran materion ffosffadau yn caniatáu i Wrecsam ddechrau gweithio trwy ôl-groniad cynllunio

Diweddarwyd diwethaf: Awst 14, 2023 12:16 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
River
RHANNU

Dywed Cyngor Wrecsam y bydd cynnydd sylweddol gyda materion cynllunio ‘ffosffadau’ o’r diwedd yn helpu i ryddhau datblygiadau a thwf economaidd yn y fwrdeistref sirol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae targedau amgylcheddol cenedlaethol diwygiedig a gynlluniwyd i leihau lefel y ffosffad sy’n mynd i afonydd a dyfrffyrdd mwyaf amgylcheddol sensitif Cymru wedi effeithio’n sylweddol ar allu nifer o Awdurdodau Cynllunio Lleol ar draws Cymru i roi caniatâd cynllunio.

Gall datblygiadau newydd gynyddu’r lefel o ddŵr budr y mae’n rhaid i Waith Trin Dŵr Gwastraff ymdrin ag o, a gall hyn effeithio ar lefel y ffosffad sy’n cael ei ryddhau i afonydd. Bu’n anodd cyrraedd y targedau newydd – ar arweiniodd hyn ar atal gwneud penderfyniad ar nifer o geisiadau cynllunio.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru (DC) a Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Dyfrdwy, ymhlith budd-ddeiliaid eraill.

Mae hyn wedi arwain at gyhoeddi Trwyddedau Amgylcheddol diwygiedig ar gyfer gwaith trin dŵr gwastraff mwyaf y fwrdeistref sirol yn Five Fords, yn ogystal â gwaith yng Ngresffordd.

O ganlyniad, gall y cyngor nawr benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd a wasanaethir gan y gwaith trin dŵr dan sylw.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud cynnydd a hoffwn ddiolch i dîm cynllunio’r Cyngor, CNC, Dŵr Cymru a Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Dyfrdwy am gydweithio’n agos ar y mater allweddol hwn.

“Gallwn nawr wneud penderfyniadau ar nifer o geisiadau nad oedd modd i ni eu hystyried o’r blaen, a bydd hyn yn ein helpu i ryddhau datblygiadau yn Wrecsam a hwyluso twf economaidd.”

Gweithio trwy’r ôl-groniad

Bu’n rhaid gohirio nifer o geisiadau cynllunio oherwydd y materion ffosffadau.

Fodd bynnag, yn sgil y trwyddedau newydd, gall y Cyngor bellach ystyried ceisiadau sy’n cyfateb i tua 2,900 o gartrefi newydd a wasanaethir gan y gwaith dŵr yn Five Fords, a 170 a wasanaethir gan y gwaith yng Ngresffordd.

Bydd ceisiadau eraill yn cael eu hystyried fesul achos, ar ôl ymgynghori â Dŵr Cymru – sy’n arwydd o ddychwelyd i fusnes arferol.

Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau y bydd angen buddsoddi yn Five Fords yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio a chaniatáu cysylltu rhagor o ddatblygiadau adeiladu. Bydd y buddsoddiad hwn yn amodol ar gymeradwyaeth gan y rheoleiddiwr dŵr, Ofwat.

Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Bydd ein tîm cynllunio nawr yn gweithio trwy’r ôl-groniad sylweddol o geisiadau.

“Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai sydd agosaf at ddechrau’r gwaith adeiladu, yn ogystal â datblygiadau sy’n ymwneud â chyflogaeth a gwasanaethau, cynigion tai fforddiadwy a datblygiadau â phwysau brys o ran amser.

“Fodd bynnag, rydym yn gofyn i ymgeiswyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth, gan y bydd gweithio trwy’r ôl-groniad yn dasg enfawr.”

Gwaith dŵr Wrecsam…

Mae gwaith dŵr Five Fords yn gwasanaethu’r ddinas a llawer o’r fwrdeistref sirol, gan gynnwys:

  • Y Bers
  • Broughton
  • Brymbo
  • Bwlchgwyn
  • Y Waun
  • Coedpoeth
  • Cross Lanes
  • Gwynfryn
  • Johnstown
  • Marchwiail
  • Y Mwynglawdd
  • New Brighton
  • Pentre Bychan
  • Penycae
  • Rhosllannerchrugog
  • Rhostyllen
  • Rhiwabon
  • Southsea
  • Tan-y-fron

Mae gwaith dŵr Gresffordd yn gwasanaethu:

  • Bradle
  • Gresffordd
  • Gwersyllt
  • Llai
  • Rhosrobin
  • Sydallt

Mae disgwyl i Drwyddedau Amgylcheddol Diwygiedig gael eu cadarnhau ar gyfer gwaith dŵr Cefn Mawr a Lavister yn fuan iawn.

Rhoddir trwyddedau diwygiedig i waith dŵr eraill yn y fwrdeistref sirol o fewn blwyddyn – er nad yw’n glir ar hyn o bryd a fydd modd iddynt ymgymryd â datblygiadau ychwanegol.

Bydd Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Dyfrdwy yn parhau i fonitro’r sefyllfa ar gyfer pob un o’r safleoedd hyn.

Rhannu
Erthygl flaenorol foster wales “Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol”
Erthygl nesaf 20mph Eithriadau arfaethedig i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English