Mae pedair elusen yn Wrecsam wedi cael hwb mawr i’w coffrau heddiw ar ôl i Faer Wrecsam gyflwyno sieciau iddynt yn dilyn ei flwyddyn gyntaf yn y swyddfa ddinesig.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r elusennau (Tŷ’r Eos, Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Maelor, Dynamic a Chronfa Lauren Brown) i Neuadd y Dref i dderbyn gwerth £6287.00 o sieciau. Bu i Dŷ’r Eos hefyd dderbyn £1910.00 gan Glwb Perchnogion MG Gorllewin Caer.
Pob blwyddyn bydd y Maer yn gweithio ac yn cynnal digwyddiadau i elusennau o’i ddewis ac yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae miloedd ar filoedd o bunnau wedi eu casglu at elusennau lleol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yn rhyfedd iawn, gofynnwyd i’r Maer presennol, y Cyng. John Pritchard, ymgymryd â’r swydd am dymor arall ar ôl i’r Maer a enwebwyd golli ei sedd yn yr etholiadau lleol.
“gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino”
Meddai’r Maer:
“Mae elusennau lleol yn aml iawn yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino at yr achos. Mae’n bleser gennyf i, a’r holl feiri o’m blaen, gael helpu drwy godi arian yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd. Ac mae’n anrhydedd gennyf dderbyn y dasg honno eto. Eleni byddaf yn codi arian ar gyfer Tŷ’r Eos, Cronfa Lauren Brown, Dynamic, Wrexham Renal Comfort Fund a Bloodbikes Wrecsam. Hoffaf ddiolch i staff y swyddfa ddinesig am drefnu llawer o’r digwyddiadau codi arian. Gwerthfawrogir eu cymorth yn fawr iawn.”
Llun, o’r chwith i’r dde: Debbie Barton a Caroline Siddall o Dŷ’r Eos, Menna Story a Margaret Bryden o Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Maelor, Carol Gardner a Peter Butler o Dynamic a Rosemary a Clare Brown o Gronfa Lauren Brown
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI