Diolch i nawdd gan Goed Cadw mae gan Barc Bellevue banel egluro erbyn hyn sy’n rhoi gwybodaeth ar rai o goed mwyaf arwyddocaol y parc.
Eleni, bydd Coed Cadw yn helpu i ariannu prosiectau o fewn y Cyngor werth £20,000 a bydd £20,000 pellach ar gael flwyddyn nesaf.
Mae’r nawdd yn rhan o Brosiect Coed y Stryd sy’n hysbysebu ac yn dathlu manteision coed trefol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r llun yn dangos Clare Morgan o Coed Cadw yn cyflwyno siec o £5,000 i’r Cynghorydd David A Bithell fel rhan o nawdd eleni.
Yn seremoni cyflwyno’r siec plannodd Cyfeillion Bellevue Fasarnen ‘Freemans’, sy’n cynhyrchu arddangosfa anhygoel o ddail coch bob hydref. Plannwyd y goeden er cof am Kay Lewis bu farw’n ddiweddar. Roedd Kay yn gymeriad hoffus ac yn aelod sefydlog o grŵp y cyfeillion am gyfnod hir, a bydd hiraeth mawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod. Mae Cyfeillion Bellevue yn grŵp o wirfoddolwyr lleol sy’n helpu i drefnu a chynnal digwyddiadau, codi arian a gofalu am Barc Bellevue yn gyffredinol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i Gadw Coed am eu nawdd croeso ar gyfer y bwrdd egluro hwn a fydd yn ddefnyddiol iawn i ymwelwyr i’r parc a fydd yn gallu adnabod coed penodol o’i herwydd.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.