Erthygl Gwadd – NETWORK RAIL
Hoffem roi gwybod ichi y byddwn yn gweithio rhwng Wrecsam Canolog a Wrexham Cyffredinol i
cwbwlhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i’r trac. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn tynnu
ymaith y trac a’r balast (y cerrig sy’n cynnal y trac) ac yn gosod rhai newydd yn eu lle. Bydd hyn yn
ein helpu ni i gynnal rheilffordd ddiogel a dibynadwy.
Rydym wedi cychwyn ar y gwaith o sefydlu’r safle a danfon deunyddiau ato, a bydd hyn yn mynd
parhau bob dydd Sul hyd at ddechrau’r prif waith ar ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf. Dylech nodi y
disgwylir i’r gwaith parhaus a restrir isod fod yn swnllyd ac y bydd yn tarfu arnoch wrth i staff a
pheiriannau weithio ar y rheilffordd ddydd a nos.
Mae dyddiadau ac amserau’r gwaith fel y ganlyn:
Dyddiadau’r shifftiau | Amserau’r shifftiau |
Dydd Sul 9 Gorffennaf a dydd Sul 16 Gorffennaf | 12:20am – 8:25am |
Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf – dydd Llun 24 Gorffennaf (gweithio yn ddi-baid gyda gwyriad ffordd i gyrrwyr a cerddwyr) | 12:25am – 5:20am |
Dydd Sadwrn 29 Gorffennaf – dydd Llun 31 Gorffennaf (gweithio yn ddi-baid gyda gwyriad ffordd i gyrrwyr a cerddwyr) | 12:25am – 5:20am |
Dydd Sadwrn 5 Awst – dydd Llun 7 Awst (gweithio yn ddi-baid gyda gwyriad ffordd i gyrrwyr a cerddwyr) | 12:25am – 5:20am |
Dydd Sul 12 Awst – dydd Sul 27 Awst ( gweithio pob dydd sul gyda gwyriad ffordd i gyrrwyr a cerddwyr) | 12:20am – 8:25am |
Dydd Sul 3 Medi – dydd Sul 17 Medi ( pob dydd Sul) | 12:20am – 8:25am |
Bydd angen dynnu ymaith y groesfan wastad ar Watery Road ar gyfer y gwaith ddi-baid er mwyn
adnewyddu’r trac presennol. Caiff arwyddion eu gosod ar y croesfannau hyn yn rhoi gwybod am y
bwriad i’w cau dros dro ynghyd â llwybr dargyfeiriol ag arwyddion clir i gerbydau a cherddwyr.
Sylwer yn ystod yr amser hon fydd pob cerbydau yn cynnwys cerbydau brys angen defnyddio y
llwybr dargyfeiriol.
Newidiadau i wasanaethau trên
Mae gwaith peirianyddol yn cael ei wneud rhwng yr Amwythig a Wrecsam Cyffredinol a hefyd
rhwng Wrecsam a Bidston, a fydd yn golygu bod yr holl linellau ar gau. Caiff trenau rhwng yr
Amwythig a Chaer eu dargyfeirio trwy Crewe a bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau ar hyd y llwybr
arferol. Os ydych yn cynllunio i teithio gyda tren ar y dyddiau hon, gwiriwch cyn teithio a’r gwefan
https://www.journeycheck.com/tfwrail/
Mae natur ein gwaith yn golygu’n aml fod rhywfaint o sŵn yn anochel. Gwyddom ein bod yn
gweithio’n agos at eich cartref a byddwn yn ceisio gwneud cyn lleied o sŵn ag sy’n bosibl, ond
mae’n ddrwg gennym os byddwn yn tarfu arnoch chi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau fedrwch gysylltu 24 awr ar 03457 11 41 41 neu wrth fynd at www.networkrail.co.uk/contactus
Caiff y gwaith ei rhannu’n ddau gam er mwyn achosi cyn lleied o darfu i deithwyr ag sy’n bosibl, a byddwn yn dychwelyd yn gynnar yn 2024 i gwblhau’r
gwaith. Bydd mwy o fanylion ar gael tuag at diwedd y flwyddyn.
Llwybr gwyriad y ffordd
Llwybr gwyriad cerddwyr