Erthygl gwestai ar ran y Cyngor Iechyd Cymuned
Ydych chi wedi defnyddio’ch gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau yn ddiweddar?
Os felly, gallwch helpu i wella’r gwasanaeth trwy gwblhau arolwg byr ar-lein. Bydd eich Cyngor Iechyd Cymuned yn defnyddio’r canlyniadau i nodi ble mae’r gwasanaeth yn gweithio’n dda a ble mae angen gwneud gwelliannau. Bydd yr arolwg yn fyw o ddydd Llun 21 Ionawr tan ddydd Sul 31 Mawrth 2019.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Cliciwch yma i weld yr arolwg ar-lein ar y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn annibynnol a’u pwrpas yw gwella profiad y claf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru a chynnig cefnogaeth os aiff rhywbeth o’i le. Os hoffech gysylltu â’r Cyngor Iechyd Cymuned, ffoniwch 02920 235 558 am fwy o wybodaeth.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU