Wrth i’r Nadolig nesáu, gofalwch nad ydych yn methu’r hwyl a’r hud gyda’r canllaw hwn i ddigwyddiadau canol y dref i ddathlu’r Nadolig!
Mae’r cyfan yn dechrau am 5pm ar 23 Tachwedd pan fydd goleuadau canol y dref yn cael eu troi ymlaen a phan fydd y siopau ar agor yn hwyr i’ch rhoi yn ysbryd yr ŵyl. Mae’r digwyddiad eleni’n cael ei drefnu gan y Clwb Rotari gyda chefnogaeth Cyngor Wrecsam. Bydd llwyth o hwyl Nadoligaidd i’w fwynhau, a dyma rai o’r bobl a fydd yno ar gyfer y digwyddiad:
- Clwb Pêl-droed Wrecsam
- Thomas Teago
- ‘The Phonics’ – band teyrnged Stereophonics
- Y cantorion April Lee a Damon Jacs
- Brenhines Elsa
- Corau ysgol
- Cynhyrchiad o ‘Elf’
- Band Before the Storm
- a thri gwestai enwog o bantomeim y Stiwt eleni!
Ar 2 Rhagfyr am 11am, bydd y dyn ei hun yn cyrraedd! Eleni bydd Sion Corn yn cyrraedd ei groto ar Sgwâr y Frenhines mewn gorymdaith gerddorol gyda’i garw a’i sach llawn rhyfeddodau ar strydoedd canol y dref.
O’r diwrnod hwnnw tan 23 Rhagfyr, bydd Sion Corn yn ei groto bob dydd i chi ymweld ag o.
Ar 3 Rhagfyr bydd sgrin sinema awyr agored fawr yn dod i’r dref a bydd noson o ffilmiau Nadoligaidd clasurol yn cael ei chynnal ym maes parcio’r Byd Dŵr. Yn dilyn pleidlais ar-lein, y ffilmiau buddugol oedd Elf a fydd ymlaen am 5,30pm a Home Alone a fydd ymlaen am 8pm. Bydd tocynnau ar gael yn y Ganolfan Groeso trwy ffonio 01978 292015 neu ar wefan http://www.thisiswrexham.co.uk Mae’r tocynnau’n costio £15 y car.
Yn olaf, bydd y Farchnad Nadolig Fictoraidd yn dychwelyd ar 7 Rhagfyr, 12 – 8pm. Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn i’r dref ac mae’n denu miloedd o siopwyr bob blwyddyn. Eleni bydd y farchnad yn cael ei hymestyn drwy’r dref o Sgwâr y Frenhines, i lawr Heol Y Frenhines, Stryt yr Hob, Stryt yr Eglwys i Eglwys San Silyn, a bydd dros 100 o stondinau, reidiau Fictoraidd a mwy o adloniant Fictoraidd.
Cofiwch hefyd… trwy gydol mis Rhagfyr gallwch barcio am ddim yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam (cyfyngiadau arferol yn berthnasol) felly gallwch gymryd eich amser i fynd o amgylch y siopau!
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU