Fel rhan o’n taith o amgylch masnachwyr annibynnol canol y dref, aethom i siop “Just Desserts” ar Charles Street i weld sut mae busnes yno.
Wrth gerdded i mewn i’r siop gall y cwsmer arogli’r melysfwyd hyfryd sy’n eu disgwyl o bentwr o grempogau “Butter Beer” a ysbrydolwyd gan Harry Potter i doesenni wedi’u llenwi â hufen iâ – mae’r fwydlen ar y wal yn wledd i’r llygad heb sôn am y bol a gallwch roi modd i fyw i deulu o bedwar am £10.00 yn unig os yw arian yn dynn.
Agorodd Carl a Sarah Hughes eu siop ym mis Tachwedd y llynedd ond maen nhw bellach yn mynd allan i ddigwyddiadau ac mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn iddyn nhw. Maen nhw newydd sicrhau contract i weini eu melysfwyd yn gemau’r Crusaders a gynhelir yn Queensway. Roedden nhw hefyd yn nigwyddiad diwethaf ‘Rock the Park’ yn Marchwiel ac mae’r dyddiadur yn prysur lenwi gyda gwahanol ddigwyddiadau.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“rhaid gweithio’r oriau”
Dywedodd Sarah:
“Mae’n wych yma ar Charles Street gan fod pawb mor gyfeillgar ac rydym i gyd yn helpu ein gilydd. Heb os, mae’n waith caled ac er mwyn bod yn llwyddiannus mae’n rhaid i ni weithio’r oriau a bod yn barod i weithio’n galed. Rydym yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos ond mae’n werth o. Mae pobl i’w gweld yn mwynhau ein pwdinau ac rydym yn bendant yn mwynhau eu gwneud nhw.”
Mae ei sylfaen cwsmeriaid yn eithriadol o eang ac mae un o’n cwsmeriaid yn dod o Awstralia ac eraill o Lerpwl a Manceinion. Er hynny, roedd y cwsmeriaid o Lerpwl yn masnachu drws nesaf i ‘Just Desserts’ mewn digwyddiad diweddar ac yn teimlo cywilydd braidd pan welsom ni eu bod wedi dwyn ein ryseitiau. Mae’n debyg eu bod wedi bod ar daith ‘ymchwil’ ac wedi mwynhau’r hyn a welsant.
“Roedd Busnes Cymru yn help mawr”
Pan wnaethom ofyn pa gefnogaeth yr oeddent wedi’i gael i sefydlu’r busnes roedd Carl yn awyddus i gydnabod help Busnes Cymru yn y dyddiau cynnar – “Roedd Busnes Cymru yn help mawr ac fe aethom ar gwrs a redwyd ganddyn nhw yn Rhydfudr ar yr Ystad Ddiwydiannol a oedd yn wych. Mae tipyn ohonom a oedd ar y cwrs hwnnw wedi mynd ymlaen i sefydlu busnes eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried rhedeg busnes – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siŵr pa fath o fusnes – i gysylltu â nhw gan eu bod yn gefnogol iawn.
Mae Adran Diogelwch Bwyd y Cyngor hefyd wedi cael canmoliaeth gan iddyn nhw alw heibio yn gynnar iawn yn y broses. Roedden nhw wedi paratoi eu hunain i wneud llawer o newidiadau yn y gegin er mwyn cyrraedd y safon ond yn y diwedd ni fu raid iddyn nhw wneud cymaint o newidiadau ac mae gan y siop sgôr hylendid bwyd o 5.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI