Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio fis nesaf (Rhagfyr) wrth i Wrecsam baratoi i newid rhai ffyrdd yn ôl i fod yn 30mya.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru derfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru ym mis Medi 2023.
Cafodd y polisi ei weithredu yn Wrecsam, a chaniatawyd i nifer fechan o ffyrdd 30mya gael eu heithrio.
Serch hynny, ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r cynllun 20mya gan annog pobl i gysylltu â’u Cyngor lleol gydag adborth ac awgrymiadau ynglŷn â pha ffyrdd y gellir o bosib, eu newid yn ôl i 30mya.
Cafodd Cyngor Wrecsam 440 o e-byst, yn cynnwys:
- 207 o sylwadau cyffredinol yn erbyn y cynllun 20mya.
- 152 yn awgrymu lleoliadau unigol y dylid eu newid yn ôl i fod yn 30mya.
- 54 yn awgrymu lleoliadau niferus y dylid eu newid yn ôl.
- 27 o ymatebion yn cefnogi’r terfyn 20mya ac yn dweud na ddylai unrhyw ffordd gael ei newid yn ôl i 30mya.
Bydd unrhyw newid yn ôl i 30mya yn gorfod cael ei asesu drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.
Mae’r Cyngor wedi asesu’r ffyrdd a awgrymwyd i gael eu hadolygu i weld pa rai sy’n gymwys, a rŵan bydd yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn rhan o’r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ffurfiol.
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Rydym ni bellach mewn sefyllfa i gadarnhau’r cynigion i newid rhai ffyrdd yn ôl i fod yn 30mya yn dilyn ymgynghoriad ac adborth cychwynnol.
“Mae’n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad statudol i newid y gorchmynion cyfreithiol. Mae’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau arfaethedig yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
“Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 12 Chwefror (2025).”
Fe fydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Gwener, 13 Rhagfyr.
Y ffyrdd a fydd yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad (i’w newid yn ôl o bosibl i fod yn 30mya) ydi:
B5445 Allt Merffordd, Merffordd
O’r fynedfa i Springfield Farm, i bwynt 120m i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd ar gyfer Ffordd y Coetir, i gyfeiriad y de am bellter o 1.44km.
B5445 Ffordd Caer, Gresffordd (ger Lôn y Clapwyr i Ffordd y Coetir)
O bwynt 105m i’r de-orllewin o’i chyffordd gyda Lôn y Clapwyr i bwynt 120m i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd y Coetir, i gyfeiriad y gogledd am 1.69km.
Lôn Tŷ Gwyn, Acton
Ar ei hyd cyfan, pellter o 879m.
B5425 Ffordd Newydd/ Ffordd Fawr/ Ffordd Newydd Llai, Rhosrobin
O bwynt 65m i’r de o’i chyffordd gyda Lôn Tŷ Gwyn, i bwynt 105m i’r gogledd o’i chyffordd Ffordd Plas Acton, i gyfeiriad y gogledd am 946m.
Ffordd Plas Acton, Pandy
O’i chyffordd gyda B5425 Ffordd Newydd, i bwynt 81m i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Bluebell Lane, i gyfeiriad y dwyrain am 430m.
A5152 Ffordd Caer, Acton
O bwynt 114m i’r de o’i chyffordd gyda Lôn y Bwth, i bwynt 34m i’r gogledd o’i chyffordd gyda Ffordd y Llwyni/Rhodfa Penymaes, i gyfeiriad y de am 703m.
A5152 Ffordd Caer, Acton
O bwynt 80m i’r de o’r gylchfan ar gyfer A483 Cyffordd 5, Cyfnewidfa Gresffordd, i’w chyffordd gyda Rhodfa Acton Fach, i gyfeiriad y de am 973m.
Ffordd Jeffreys, Borras
O’i chyffordd gyda Lôn y Bwth, i’w chyffordd gyda Ffordd Parc Borras, i gyfeiriad y de am 1.06km.
B5100 Lôn Rhosnesni, Acton/Rhosnesni
O’i chyffordd gyda Ffordd Elfed, i’w chyffordd gyda chylchfan A5152 Ffordd Caer, i gyfeiriad y dwyrain am 848m.
A534 Ffordd Holt, Wrecsam/Rhosnesni
O bwynt 50m i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd gyda Lôn Hullah, i’w chyffordd gyda’r gylchfan ar gyfer Ffordd Cefn/Ffordd y Deon, i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am 709m.
A534 Ffordd Holt, Borras
O’i chyffordd gyda’r gylchfan ar gyfer Ffordd Cefn/Ffordd y Deon, i bwynt 148m i’r de-orllewin o’i chyffordd gyda’r gylchfan ar gyfer Ffordd Gyswllt Llan y Pwll, i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am 835m.
A525 Ffordd Melin y Brenin, Hightown
O bwynt 23m i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Derby, i bwynt 48m i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda dolen Kingsmills, i gyfeiriad y de-ddwyrain am 692m.
Dolen Kingsmills (Hen A525)
O’i chyffordd gyda Ffordd Melin y Brenin, i bwynt 190m i’r de o’i chyffordd gyda Ffordd Abenbury, pellter o 472m.
Ffordd Abenbury, Abenbury
Ar ei hyd cyfan – o’i chyffordd gyda Dolen Kingsmills, i’r chyffordd gyda Ffordd Cefn, pellter o 810m.
Ffordd Cefn, Abenbury
O bwynt 42m i’r de o’i chyffordd gyda Lôn Hullah, i bwynt 118m i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Kempton, pellter o 1.62km.
A525 Ffordd Wrecsam/ Ffordd Bangor, Marchwiail
O bwynt 84m i’r de-orllewin o’i chyffordd gyda Lôn Plas Marchwiel, i bwynt 250m i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Ridgeway Loop, am bellter o 1.56km.
A528 Ffordd Owrtyn, Marchwiail
O’i chyffordd gyda A525 Ffordd Wrecsam, Marchwiail, i bwynt 63m i’r de o’r un gyffordd, pellter o 63m.
A525 Ffordd Bangor, Lôn Groes
O bwynt 71m i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd gyda chylchfan Sesswick Way, i bwynt 127m i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda chroesffordd B5130 yn Lôn Croes, pellter o 770m.
B5130, Lôn Groes
O bwynt 121m i’r de-orllewin o’i chyffordd gyda chroesffordd A525 yn Lôn Groes, i bwynt 118m i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd gyda Pharc Nant Clwyd, pellter o 795m.
A525 Ffordd Rhuthun, Wrecsam
O bwynt 107m i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Lôn y Tyddyn, i bwynt 117m i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Ffordd Croesnewydd, pellter o 357m.
A541 Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt
O bwynt 96m i’r de o’i chyffordd gyda Hen Ffordd yr Wyddgrug, i bwynt 26m i’r gogledd o’i chyffordd gyda’r Stryd Fawr, pellter o 860m.
B5425 Ffordd Newydd Llai, Llai
O’i chyffordd gyda’r fynedfa i Barc Gwledig Dyfroedd Alun, i bwynt 23m i’r de o’i chyffordd gyda chylchfan ar gyfer B5102 Ffordd Llai, pellter o 1.12km.
B5102 Y Filltir Syth/Bryn Croeshywel, Llai
O bwynt 360m i’r de-orllewin o’i chyffordd gyda Lôn Uchaf/Lôn y Gegin, i bwynt 31m i’r gogledd-ddwyrain o’r un gyffordd, am bellter o 414m.
Lôn y Gegin, Llai
O’i chyffordd gyda’r B5120, i gyfeiriad y de, am bellter o 210m.
Lôn Uchaf, Llay
Ar ei hyd cyfan, pellter o 1.06km.
Lôn y Capel, Llai
Ar ei hyd cyfan, pellter o 895m.
Rhodfa’r Ffenics, Brymbo
Ar ei hyd cyfan, pellter o 850m.
Stryd Fawr Newydd, Brymbo
O’i chyffordd gyda’r gylchfan ar gyfer Rhodfa’r Ffenics a Stryd Fawr Newydd, i’w chyffordd gyda Ffordd y Chwyth, pellter o 348m.
Heol y Rheilffordd, Brymbo
O’i chyffordd gyda’r gylchfan ar gyfer Rhodfa’r Ffenics a Stryd Fawr Newydd, i’w chyffordd gyda B5101 a Bryn Marchog, pellter o 277m.
B5101, The Lodge
O’i chyffordd gyda Ffordd Brychdyn, i’w chyffordd gyda Ffordd Cefn, pellter o 472m.
B5426 Ffordd y Wern, Y Mwynglawdd
O’i chyffordd gydag Allt y Ficerdy, i bwynt 170mi’r de o’i chyffordd gyda’r Ffordd Fynedfa i Minera House, am bellter o 805m.
B5426 Ffordd Plas y Mwynglawdd, y Mwynglawdd
O bwynt 30m i’r gorllewin o’i chyffordd gyda A525 Ffordd Rhuthun, i bwynt 140m i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Trem-Y-Mynydd, am bellter o 404m.
B5426, Y Wern
O bwynt 91m i’r gogledd o’i chyffordd gyda Stryt y Scweiar, i bwynt 138m i’r gogledd o’i chyffordd gyda’r Lôn o Hafod Wen i Coppy Cottage pellter o 543m.
B5605 Ffordd y Parc/Ffordd Cefn Bychan, Rhosymedre
O bwynt 161m i’r gogledd o’i chyffordd gyda Phlas Isaf, i bwynt 57m i’r dwyrain o’r fynedfa i Wynnstay Park & Lodge, pellter o 2.45km
A539 Ffordd Llangollen, Acrefair
O bwynt 93m i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Hampden, i bwynt 12m i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Stryt y Capel, pellter o 945m.
A539 Ffordd Llangollen, Trefor
O bwynt 26m i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Pharc Trefnant, i bwynt 29m i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Plas Trefor, pellter o 1.46km.
B5097, Y Waun
O bwynt 44m i’r gogledd o’i chyffordd gyda Golygfa’r Gorllewin, i bwynt 43m i’r gogledd o’i chyffordd gyda Ffordd y Lofa, pellter o 947m.
O bwynt 13m i’r de o’i chyffordd gyda B4500 Ffordd y Castell, i bwynt 170m i’r de o’r un gyffordd, pellter o 157m.
B5605 Ffordd Wrecsam, Johnstown
O bwynt 66m i’r de o’i chyffordd gyda Y Ffennant, i bwynt 9m i’r gogledd o’i chyffordd gyda Stryt Siarl, pellter o 306m.
B5605 Ffordd Rhiwabon, Johnstown
O bwynt 16m i’r de o’i chyffordd gyda Stryt Las, i bwynt 42m i’r de o’i chyffordd ar gyfer Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall, pellter o 484m.
Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall, Johnstown
Ar ei hyd cyfan.
B5605 Ffordd Rhiwabon, Rhiwabon
O bwynt 22m i’r gogledd o’r bont reilffordd, i’w chyffordd gyda Rhodfa’r Dwyrain, pellter o 71m.
B5605 Stryd Fawr Newydd, Rhiwabon
O’i chyffordd gyda Rhodfa’r Dwyrain, i’w chyffordd gyda Stryt Vincent, pellter o 324m.
B5605 Stryt y Bont, Rhiwabon
O’i chyffordd gyda Tan-y-llan, i’w chyffordd gyda A539 Cylchfan Rhiwabon, pellter o 461m.
A539/B5605 Cylchfan Rhiwabon, Rhiwabon
Ar ei hyd cyfan, pellter o 206m.
B5097 o Ffordd Plas Bennion Road i gyffordd Ffordd Tatham, Rhiwabon
O’i chyffordd gyda Ffordd Plas Bennion i bwynt 14m i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Tatham, pellter o 1.10km.
Ffordd Plas Bennion / Allt Copperas, Penycae
O’i chyffordd gyda Ffordd Afoneitha i bwynt 144m i’r de o’i chyffordd gyda B5097, pellter o 313m.
Ffordd Plas Bennion, Penycae (parth clustogi)
O’i chilfach wrth agosáu at yr ardal breswyl, i gyfeiriad y de am bellter o 301m.