Os ydych chi’n hoff o ddirgelwch llofruddiaeth ac ysgrifennu yna mae gwahoddiad i chi gystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Sgript Dirgelwch Llofruddiaeth Carnifal Gŵyl Geiriau Wrecsam 2023.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw awdur gyda sgript wreiddiol sy’n cyd-fynd â’r gofynion ac sydd heb ei chyhoeddi o’r blaen. Bydd gennych chi rhwng 1 a 29 Medi 2023 i gyflwyno eich sgript a bydd yr awdur buddugol yn ennill £100. Bydd y sgript hefyd yn cael ei pherfformio gan actorion amatur lleol yn ystod noson Dirgelwch Llofruddiaeth Gŵyl Geiriau Wrecsam ym mis Ebrill 2024.
Beirniad y gystadleuaeth fydd Simon McCleave, noddwr Gŵyl Geiriau Wrecsam ac awdur nofelau trosedd poblogaidd. Ei lyfr newydd, The Wrexham Killings a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2023, yw’r unfed ar bymtheg llyfr yng nghyfres DI Ruth Hunter.
Cafodd y rheiny sydd wrth eu bodd gyda nofelau trosedd wledd yng Ngŵyl 2023 gan gael eu diddanu gan yr awduron llyfrau cyffrous Tim Weaver, Glenda Young, Conrad Jones a Jenny Blackhurst, a gwrando ar Fflur Dafydd yn siarad am ei nofel unigryw The Library Suicides.
Roedd perfformiad Dirgelwch Llofruddiaeth 2023 yn Llyfrgell Wrecsam dan ei sang, ac mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen at glywed sgript wreiddiol gan awdur lleol flwyddyn nesaf. Mi fydd yna ddigon o droeon annisgwyl a thrywyddau seithug yn aros amdanoch!
Mae manylion y gystadleuaeth a’r amodau a’r telerau ar gael ar wefan Gŵyl Geiriau Wrecsam yn www.wrexhamcarnivalofwords.com.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen EISTEDDFOD 2025 I’W CHYNNAL YN WRECSAM
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch