Dyma’r hyn y bydd ein Bwrdd Gweithredol yn edrych arno ym mis Mai pan fydd yn cael manylion tanwariant a gorwariant ein hamrywiol adrannau dros y flwyddyn.
Yn ei adroddiad i aelodau, mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, yn rhoi manylion gwariant pob adran ar gyfer y flwyddyn, sut y bu iddynt ymdopi â gwahanol bwysau a’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn.
At ei gilydd, mae yna £490k o danwariant yn y gyllideb, y bydd y mwyafrif ohono’n cael ei roi yng Nghronfa Wrth Gefn y flwyddyn nesaf ar gyfer gwaith Cynnal a Chadw dros y Gaeaf a’r Cronfeydd Cyfalaf.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Bu i’r adroddiad gael ei gyflwyno’n ddiweddar i un o’n Pwyllgorau Craffu, ac roedd y cynghorwyr yn falch gyda’r canlyniadau ar y cyfan, o ystyried y cyfnod ariannol heriol yr ydym yn mynd drwyddo ar hyn o bryd. Cyflwynodd y Cynghorydd Pritchard yr adroddiad, gan ddiolch i’r swyddogion a’r Aelodau Arweiniol sydd oll wedi gweithio’n ddiflino i gyflwyno cyllideb gytbwys.
Bydd pob adran yn cychwyn gyda balans o £0 ar ddechrau 2019/20, a bydd y gwariant yn cael ei fonitro’n ofalus unwaith eto er mwyn sicrhau sefyllfa gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae £63 miliwn eisoes wedi’i dorri o’n cyllideb ers i’r mesurau caledi ddechrau, a bydd disgwyl i ni dorri £18 miliwn pellach dros y ddwy flynedd nesaf.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.
Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 10am ar 14 Mai a chaiff ei weddarlledu ar ein gwefan www.wrexham.gov.uk er mwyn i chi allu gwylio’r trafodion yn fyw… dilynwch y ddolen hon: https://wrexham.public-i.tv/core/portal/home
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU