I ddathlu Pythefnos Maethu, mae ein tîm Gofal Maeth yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Tŷ Pawb ar ddydd Mawrth, 14 Mai.

Mae’r digwyddiad i bawb sy’n ystyried bod yn Ofalwr Maeth neu unrhyw un a hoffai ychydig mwy o wybodaeth am faethu.

Allwch chi wella dyfodol plentyn mewn gofal?

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth a drama yn Tŷ Pawb ar ddydd Mawrth, 14 Mai o 3.30pm tan 7pm. Gall unrhyw un alw heibio’r digwyddiad sy’n rhad ac am ddim i ddarganfod mwy am ofalwyr maeth a sut y gallwch chi ddod yn ofalwr maeth.

Bydd lluniaeth ar gael.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys y ddrama pobl ifanc “Tonight’s gonna be a good night” gan theatr Cat’s Paw.

Bydd gweithwyr cymdeithasol ac arbenigwyr ar gael i ateb eich cwestiynau yn ogystal â gofalwyr maeth a fydd yn gallu dweud wrthych yn y fan a’r lle sut brofiad yw maethu plant.

Bydd cyfle i’r rheiny sydd heb edrych ar faethu yn y gorffennol i gymryd mantais o’r cyngor sydd ar gael gan swyddogion hyfforddedig a chyn-ofalwyr.

Mae gofalwyr maeth yn cynnig magwraeth a chartrefi diogel i blant a phobl ifanc ac yn Wrecsam rydym yn galw am fwy o bobl i ddangos diddordeb ac i ystyried bod yn ofalwyr maeth.

Pythefnos Maethu

O 13 Mai tan 26 Mai bydd Pythefnos Gofal Maeth yn gofyn i’r rheiny sydd wedi bod yn ystyried maethu am gryn amser i weld yr hyn y gallan nhw ei roi i blant sydd angen gofal a chefnogaeth.

Penwythnos Gofal Maeth yw ymgyrch blynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu ac i ddangos sut y mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Dyma ymgyrch recriwtio gofalwyr maeth mwyaf y DU.

Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad neu i ddarganfod mwy o wybodaeth am sut i ddod yn ofalwr maeth cysylltwch â:

Rhif ffôn: 01978 295 316

Cyfeiriad e-bost:  fostering@wrexham.gov.uk 

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU