Mae’r Ffromlys Chwarennog yn blanhigyn ymledol sy’n bresennol yn Wrecsam ac yn difrodi ein blodau gwyllt naturiol. Bob blwyddyn mae ein ceidwaid yn Nhŷ Mawr a Dyfroedd Alun yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i “glirio’r ffromlys” o lannau’n hafonydd.
Maent yn dechrau cael effaith gan fod ein blodau gwyllt brodorol yn dechrau tyfu ac maent yn dychwelyd i lannau’n hafonydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gallwch hefyd ymuno â’r Ceidwaid ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ddydd Mawrth 18 Gorffennaf rhwng 9.30am a 12.00 canol dydd ar gyfer clirio mwy o ffromlys. Oherwydd lleoliad y digwyddiad hwn mae’n addas ar gyfer rhai 16 oed a drosodd.
Bydd Ceidwaid y Parc a Gwirfoddolwyr hefyd yn dod ynghyd ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr ar ddydd Mercher 26 Gorffennaf. Gallwch eu cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr am 1.00pm neu gallwch ymuno â nhw ar lannau’r afon hyd at 3.30pm. Oherwydd y lleoliad, mae’r digwyddiad yn addas i rai 8 oed a hŷn, ac mae’n rhaid i rai dan 16 oed fod gydag oedolyn.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i’n gwefan yn www.wrexham.gov.uk
Gallwch hefyd gymryd rhan drwy fonitro a chofnodi safleoedd lle gwelwyd planhigion ac anifeiliaid anfrodorol.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofnodi gweld planhigion ac anifeiliaid anfrodorol, ewch i www.dinns.org.uk
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI