Plediodd brodyr lleol, Wilfred Francis ac Ian Martin Francis o’r Ackery, Burton Yr Orsedd, yn euog i nifer o droseddau dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a rheoliadau cysylltiedig yn Llys Ynadon Wrecsam yn ddiweddar.
Cafodd y brodyr ddedfryd o 16 wythnos yn y carchar wedi’i ohirio am 12 mis
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ar 5 Chwefror 2019, cafwyd ymweliad dirybudd ar y fferm ar ôl derbyn cwyn bod ci yn bwyta llo a oedd wedi marw. Wrth gyrraedd y fferm, daeth swyddogion fferm y tîm Bwyd a Ffermio, ynghyd â Milfeddyg o Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, o hyd i wartheg a lloi wedi marw, anifeiliaid heb unrhyw wellt i orwedd arno, roedd rhai heb unrhyw fwyd na diod ac roedd gan yr anifeiliaid fynediad i wrthrychau peryglus o amgylch yr eiddo.
Ymwelodd y swyddogion 15 o weithiau rhwng 5 Chwefror 2019 a 7 Mai 2019 i wirio lles yr anifeiliaid, ac arweiniodd hyn at symud 22 o wartheg a’u dibynyddion oddi ar y fferm ar 13 Mai, 2019, gan nad oedd cyflwr eu cyrff wedi gwella, neu roeddent wedi dirywio dros y mis o fonitro.
Dywedodd Becky Pomeroy, Arweinydd Bwyd a Ffermio, bod swyddogion iechyd anifeiliaid yn gweithio ar y cyd gyda ffermwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amryw o reoliadau, ac am y 6 mis diwethaf, wedi ceisio gweithio gyda Wilfred ac Ian Francis i wella lles eu hanifeiliaid.
Rydym yn falch o weld bod y Llys Ynadon wedi cydnabod arwyddocâd y troseddau.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN