Adult Learning

Ar y rhaglen ar gyfer Bwrdd Gweithredol y mis hwn mae ffurfio Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar y cyd rhwng Wrecsam a Sir y Fflint o Ebrill 2021 i ddarparu trosolwg a rheolaeth o Ddysgu Oedolion yn y Gymuned ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol.

Ar hyn o bryd mae gennym gyfrifoldeb am ddarparu trosolwg o Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn Wrecsam; am weinyddu’r grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac am sicrhau fod partneriaid yn cydweithio i ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr. Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei reoleiddio gan Estyn a bydd angen i’r bartneriaeth gynnal hunanwerthusiad yn flynyddol ochr yn ochr â darparu cynllun cyflawni gwasanaeth blynyddol i Lywodraeth Cymru.

Rhaid i’r Bartneriaeth Dysgu Oedolion gyflawni, fel isafswm, dyfarniad o o leiaf ‘digonol’ ym mhob cwestiwn allweddol yn dilyn arolwg gan Estyn.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Y blaenoriaethau cyllido sy’n ymwneud â’r Polisi Dysgu Oedolion yw:

  • Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol – gan gynnwys Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill
  • Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
  • Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
  • Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol

Ledled Gogledd Cymru, mae dwy bartneriaeth arall sydd wedi eu sefydlu am nifer o flynyddoedd, sef Conwy a Sir Ddinbych ac Ynys Môn a Gwynedd. Mae CBSW a Chyngor Sir y Fflint wedi gweithredu partneriaethau ar wahân oherwydd y gwahaniaeth sylweddol yn eu dyraniadau cyllido gan Grant Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru, gyda dyraniad CBSW ar gyfer 19-20 yn £96,219 ac roedd un Cyngor Sir y Fflint yn oddeutu £2,000. Roedd hyn yn seiliedig ar fformiwla hanesyddol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru sydd bellach wedi ei newid; felly ar gyfer 21/22 mae CBSW yn disgwyl cael £199,205 a bydd Cyngor Sir y Fflint yn cael cynnydd sylweddol i £216,152.

Mae’r fformiwla cyllido newydd bellach yn rhoi cyfle i gyfuno’r ddwy bartneriaeth, sy’n cynnwys yr un partneriaid cyflenwi ar y cyfan, gan gynnwys Coleg Cambria ac Addysg Oedolion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol o’r cynnig i gyfuno’r ddwy bartneriaeth, fel mae partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam a Sir y Fflint, gan y bydd hyn yn galluogi i benderfyniadau strategol a gweithredol gael eu gwneud yn fwy effeithiol a hefyd gwneud y mwyaf o’r Grant Dysgu Cymunedol ar gyfer bob ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddarparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned o’r ansawdd gorau yn Sir y Fflint a Wrecsam a chroesawn y cyfle i gydweithio er budd ein trigolion.

Edrychaf ymlaen at gyflwyno’r adroddiad a gobeithiaf fod aelodau yn cytuno ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen ac y bydd yn gwneud y mwyaf o’n profiad a’r cyfleoedd a’r arbenigedd sy’n bodoli gyda Choleg Cambria yn y ddwy ardal.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG