Bydd un o’n hysgolion uwchradd yn croesawu cyfleuster newydd sbon yr wythnos hon – ac mae’r disgyblion chweched dosbarth yn edrych ymlaen yn arw at gael cerdded drwy’r drysau.
Mae’r gwaith i ddatblygu cyfleusterau £1.7 miliwn newydd yn Ysgol Morgan Llwyd a ddechreuwyd dros yr haf y llynedd bellach wedi’i gwblhau.
Mae’r bloc chweched dosbarth newydd yn cynnwys dosbarthiadau modiwlar y gellir eu rhannu i ystafelloedd unigol, toiledau newydd ac ardaloedd astudio – gyda gwerth £20,000 a mwy o ddodrefn newydd trwy’r adeilad.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae’r estyniad newydd i safle’r ysgol hefyd yn defnyddio cyflwyniad diwifr a thechnoleg cydweithio, sy’n caniatáu i ddisgyblion ac athrawon gysylltu eu teclynnau – megis ffonau symudol, llechi electronig neu liniaduron – i ddangosyddion a monitoriaid ar draws yr adeilad.
Dyma’r system gyntaf o’i math yn ysgolion Wrecsam.
Bydd disgyblion yn gallu defnyddio’r system i weithio ar y cyd neu’n annibynnol, ac mae’r cynllun newydd wedi’i ddylunio yn unol â gofynion y disgyblion.
Caiff y gwaith ei ariannu o Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Band A Llywodraeth Cymru, a Chyngor Wrecsam.
Meddai Trefor Jones-Morris, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd: “Rwy’n falch iawn o weld bod y gwaith ar floc y chweched dosbarth bellach wedi’i gwblhau. Mae tîm arwain yr ysgol wedi bod yn awyddus i wella cyfleusterau’r chweched dosbarth ers talwm, a gobeithiwn y bydd y disgyblion yn gwneud y mwyaf o’r bloc newydd.
“Mae disgyblion chweched dosbarth yr ysgol eisoes wedi ymweld â’r safle, ac maent yn hapus iawn â’r cyfleusterau newydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Mae’r gwaith ym Morgan Llwyd yn rhan o’n rhaglen gwella ysgolion, ac mae’n bleser nodi bod y prosiect wedi’i gwblhau ar amser.
“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion yng Nghyngor Wrecsam am gydlynu’r gwaith, ynghyd â staff a disgyblion yr ysgol am eu hamynedd, a chontractwyr Read Construction am sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd effeithlon.”
Meddai Catrin Pritchard, Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd: “Rydym yn hapus iawn â’r bloc chweched dosbarth newydd, yn enwedig y dechnoleg sydd wedi’i gosod ym mhob dosbarth, ynghyd â’r ystafell astudio a’r ystafell gymdeithasol.
“Bydd y dechnoleg yn ein helpu i wella’r ddarpariaeth yr ydym yn ei chynnig i’n disgyblion ar hyn o bryd ac yn ein galluog i weithio ar y cyd gydag ysgolion eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
“Hoffwn ddiolch i’r holl weithwyr o Read Construction a Chyngor Wrecsam sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect – diolch i bawb.”
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU