Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dangos ffilm i annog sgyrsiau gwell am ddementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dangos ffilm i annog sgyrsiau gwell am ddementia
Pobl a lleY cyngor

Dangos ffilm i annog sgyrsiau gwell am ddementia

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2023 5:40 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Dementia Wrexham
RHANNU

Mae pobl yn cael eu gwahodd i fynychu dangosiad ffilm yn yr Hwb Lles ym mis Mai, a fydd yn helpu i annog gwell cyfathrebu a sgyrsiau gwell am ddementia.

Cynnwys
  • “Mae’n broses ddysgu i bawb sydd ynghlwm â dementia”
  • “Mae’r canlyniad yn aml yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gyfathrebu, a sut”

Cynhelir y dangosiad rhwng 10am a 12pm ddydd Llun, 15 Mai, yn yr Hwb Lles yn Adeiladau’r Goron ar Stryt Caer, a bydd y mynychwyr yn cael gwylio’r ffilm bryfoclyd ‘The World Turned Upside Down’ gyda Chydlynydd Dementia Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Cyngor Wrecsam, Kate Evans.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Drama a gafodd ei llwyfannu yng Nghaerwysg ym mis Ionawr 2022 yw ‘The World Turned Upside Down’, ac mae’n dod o brosiect ymchwil dementia mawr o’r enw IDEAL sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerwysg.

Yn ogystal â dangos y ddrama ei hun, mae’r ffilm hefyd yn dangos y broses o’i chreu. Byddwch yn cael gweld fideo o’r ymarferion, barn pobl â phrofiad o fyw â dementia, a myfyrdodau gan yr actorion a’r bobl a oedd yn rhan o’r ddrama.

Byddwch yn cael gwahoddiad i fyfyrio ar y rhesymau pam a sut y gall sgyrsiau fynd yn wael neu weithio’n dda, yn ogystal â beth sy’n helpu i gynnal sgyrsiau da. Bydd Kate yn stopio’r ffilm ar adegau amrywiol i drafod syniadau a safbwyntiau ar gyfer gwahanol senarios a gyflawnwyd gan yr actorion.

Darperir lluniaeth hefyd, a bydd te a choffi ar gael ar ôl cyrraedd.

Gallwch archebu eich lle drwy ffonio 01978 298608 neu drwy anfon e-bost at kateA.evans@wrexham.gov.uk

“Mae’n broses ddysgu i bawb sydd ynghlwm â dementia”

Dywedodd Kate: “Rwy’n angerddol am gefnogi dinasyddion sy’n byw â dementia, yn ogystal â’r bobl sydd wrth eu hochr trwy’r profiad. Mae sefyllfa pawb yn wahanol ac nid oes ateb cywir nac anghywir, mae’n broses ddysgu i bawb sydd ynghlwm â byw ochr yn ochr â dementia.

Mae bod yn agored gyda’n gilydd a rhannu profiadau yn bwysig iawn a gall wneud i ni sylweddoli bod gennym lawer o gefnogaeth o’n cwmpas mewn cyfnod a allai deimlo’n ynysig ar adegau.”

“Mae’r canlyniad yn aml yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gyfathrebu, a sut”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae cyfathrebu da ac effeithiol o ran dementia yn chwarae rhan fawr yn y diagnosis, felly mae cael y sgyrsiau hyn gyda’r bobl o’n cwmpas yn bwysig iawn. Mae ‘The World Turned Upside Down’ yn wych, ac mae’n dangos bod llawer o sefyllfaoedd lle mae’r canlyniad yn aml yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gyfathrebu, a sut.

“Rydym yn croesawu pawb i archebu eu lle a dod draw i’r dangosiad yn yr Hwb Lles ar 15 Mai, a fydd yn eich helpu i ddeall pam ei bod yn bwysig i siarad am ddementia.”

Dangos ffilm i annog sgyrsiau gwell am ddementia

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/Pothole_report”] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Irresponsible parking outside Wrexham school Parcio anystyriol ac anghyfreithlon yn anghyfrifol a pheryglus!
Erthygl nesaf XGas in Wrexham XGas yn dathlu 20 mlynedd o fusnes yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English