Erthygl Gwadd – FOCUS Wales
Mae FOCUS Wales yn falch o gyhoeddi digwyddiad arddangos arbennig iawn ar ddydd Sadwrn yr ŵyl gyda darllediad byw o sioe BBC Introducing Wales a fydd yn rhoi teyrnged i’r diweddar Janice Long a oedd yn ddarlledwraig wych gyda’r BBC. Bydd y digwyddiad ymlaen ar 11 Mai yn Tŷ Pawb, Wrecsam a thrwy gydweithio â’r BBC, mae tîm yr ŵyl wedi cyd-guradu amrywiaeth arbennig o artistiaid yr oedd Janice yn eu caru. Bydd Cara Hammond, Laura J Martin, Pixy Jones, a Kidsmoke, i gyd yn perfformio ar y noson, a fydd yn cael ei chyflwyno gan gydweithiwr a chyfaill annwyl i Janice, y darlledwr Adam Walton.
Cyhoeddwyd hefyd y bydd “y dywysoges pop techno” Sam Quealy yn perfformio, sydd wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i chaneuon sy’n plygu’r genre a’i sioeau byw gwyllt. Mae TWST ar y rhestr berfformwyr hefyd ar ôl rhyddhau ei hail albwm Off World, yn ogystal â’r band garej o Galway, Shark School.
Artistiaid newydd eraill sydd wedi’u cyhoeddi fel perfformwyr yng Ngŵyl FOCUS Wales yw:
Aisha Kigs | Angharad | Bau Cat | Bethan Lloyd | Bored Marsh | Caswell & Kilcawley | Choirs For Good Wrecsam | Côr DAW | Cy Humphreys | Dactyl Terra | Dirty Freud | Domanique | Elena Játiva | Escaphini | Ffenest | Figo | Fox Paloma | freekind. | Funk MC | Generation Feral | Greyzee | Hannah Acfield | HDee | Holy Coves | Joyce | Meic Agored Rapio Kaptin | Kip | Laura J Martin | Liines | LLDJ | Logic Lost | Luke RV | Meic Agored Magic Dragon | Mari Mathias | Megan Wyn | Mellt | NXDIA | OORYA | PARCS | Pixy Jones | Sioe Ddarlledu Radio Cymru | REME | Robbie Caswell-Jones | Rona Mac | RUVENRUVEN | Shellie Morris | Côr BSL Signing Sensations | SKUNKADELIC | SLATE | So What Now | Tara Bandito | The Big Day | The Pleasures | The Red Stains | Tony Star | Waterpistol | Worldcub | WRKHOUSE | Wylderness | Yelli Yelli a MWY
Gydag artistiaid o: Awstralia | Ynysoedd Baleares | Gwlad y Basg | Canada | Catalonia | Croatia | Denmarc | Lloegr | Ffrainc | Ghana | Indonesia | Iwerddon | Mecsico | Mozambique | Seland Newydd | Nigeria | Portiwgal | Romania | Yr Alban | De Corea | Sbaen | Sweden | Wcráin | a’r Unol Daleithiau!
Bydd yr artistiaid newydd hyn yn ymuno â’r prif berfformwyr a oedd eisoes wedi’u cyhoeddi ar gyfer eleni sef perfformwyr fel Spiritualized, The Mysterines, The Royston Club, Deerhoof, Adwaith, Antony Szmierek, a llawer mwy. Mae Gŵyl FOCUS Wales ymlaen ar 9,10,11 Mai yng Nghanol Dinas Wrecsam. Mae pasiau a thocynnau ar gyfer yr ŵyl ar werth rŵan ar www.focuswales.com