Mae FOCUS Wales – y digwyddiad cerddoriaeth blynyddol mwyaf yn Wrecsam – eleni wedi’i henwebu am ddwy wobr yn @festival_awards y DU 2019 ac mae’n haeddu eich pleidleisiau chi.
Maen wedi’i henwebu fel yr ‘Ŵyl Ganolig Orau’ a’r ‘Ŵyl Fetropolitanaidd Orau’. 🙂
Mae mwy a mwy yn dod i’r digwyddiad poblogaidd hwn bob blwyddyn, sy’n denu miloedd i leoliadau yng nghanol tref Wrecsam ac yn arddangos rhai o berfformwyr newydd gorau Cymru.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae disgwyl i dros 300 o berfformwyr byw fod yn nigwyddiad 2020 a byddant yno ochr yn ochr â rhai mwy profiadol ac artistiaid rhyngwladol cyffrous.
Munud sydd ei angen i bleidleisio – gallwch bleidleisio ar-lein a gwneud yn siŵr bod FOCUS Wales yn cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu.
Mae FOCUS Wales hefyd yn falch iawn o fod yn ŵyl Gymreig ac mae’r tipi anferth ar Sgwâr y Frenhines ar gyfer artistiaid Cymraeg – yr HWB Cymraeg.
Mae trefnwyr yn brysur yn cynllunio FOCUS Wales 2020 a bydd y perfformwyr yn cael eu cyhoeddi’n fuan, ond os na allwch chi aros, dyma fideo ganddyn nhw i roi blas i chi o’r digwyddiad y llynedd.
Gallwch ddarganfod mwy am FOCUS Wales 2020 yma, gan gynnwys sut i gael tocynnau bargen gynnar – brysiwch, oherwydd mae’n nhw’n gwerthu’n gyflym http://www.focuswales.com/hafan/
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD