Fe fydd FOCUS Wales yn croesawu 20,000 o gefnogwyr a bydd dros 250 o actau o Gymru a phob cwr o’r byd yn cyrraedd Wrecsam ar gyfer yr ŵyl rhwng 4 a 6 Mai.
Heddiw, mae FOCUS Wales yn falch o ddatgelu’r 60 act gerddorol cyntaf ar gyfer gŵyl 2023.
Ymysg yr actau cyntaf i’w cyhoeddi mae… unawdydd dwys, doniol, ôl-pync BILLY NOMATES a fydd yn ymddangos olaf ar y llwyfan yn Llwyn Isaf nos Iau 4 Mai, yn fuan ar ôl iddi ymddangos ar deledu cenedlaethol am y tro cyntaf ar raglen Later with… Jools y BBC.
Yna fe fydd THE JOY FORMIDABLE sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth ac sy’n dod o ogledd Cymru, yn ymddangos yn The Rockin’ Chair. Nos Wener 5 Mai, SQUID fydd y brif act yn Llwyn Isaf, ar ôl iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf a aeth i’r 10 uchaf, Bright Green Field (recordiau WARP), a chyfres o berfformiadau mewn gwyliau ar draws y byd yn 2022, yn cynnwys Primavera Sound a Glastonbury.
Daw NEUE GRAFIK ENSEMBLE â sioe ffrwydrol sy’n cynnwys cerddorion gorau’r DU mewn jazz newydd. Bydd arloeswr ym maes cerddoriaeth ddawns yn ymddangos y noson honno hefyd, A GUY CALLED GERALD, sydd fwyaf enwog am ei sengl boblogaidd ‘Voodoo Ray’, a osododd y safon yn y sîn ‘acid house’ ym Manceinion. Gan ddod â’r ŵyl i ben a’r brif act nos Sadwrn 6 Mai 2023 yn Llwyn Isaf, fydd THE CORAL sydd wedi ennill sawl gwobr, ac yna bydd sioe gan DREAM WIFE. Mae eu sengl newydd wedi cael adolygiadau da gan NME a’r Guardian ymysg nifer o rai eraill.
Mae mwy o artistiaid a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys: Acid Klaus | Adwaith | Afro Cluster | Al Lewis | Band Pres Llareggub | Ben Ottewell | Camera | Cerys Hafana | Dafydd Iwan | DEIJUVHS | Delta Radio | Dilletante | Dresden Wolves | Edie Bens | Gallops | George Boomsma | Go Go Machine Orchestra | Grubb & Eedens | Gwenifer Raymond | Hannah Grae | Hannah Scott | Heather Ferrier | HMS Morris | IMMERSE | ISLET | Juice Menace | Katherine Priddy | Kidsmoke | LEMFRECK | Maddie Morris | Mantaraybryn | MINAS | MOJA | Mooi | N’famady Kouyate | NoGood Boyo | Opus Kink | Paddy Hanna | Parisa Fouladi | Prima Queen | Sad Boys Club | Sage Todz | Shelf Lives | Skunkadelic | Sophie Jamieson | Sophie McKeand | SUN | TVAM | VRï | Walt Disco | Will Joseph Cook | Ynys | I weld y rhestr lawn o’r 60 act, ewch i www.focuswales.com ac mae yna 200 arall a fydd yn cael eu cyhoeddi!
Gyda thua 500 o weithwyr proffesiynol rhyngwladol o’r diwydiant yn mynychu gŵyl 2023, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a chyngor yn ymwneud â’r diwydiant. Mae gweithwyr proffesiynol cyntaf y diwydiant i gael eu cyhoeddi yn cynnwys: Lauren Down (Gŵyl End of The Road), Cecilia Soojeong Yi (DMZ Peace Train Festival, De Corea), Claudia Ferigo (Suns Europe, Yr Eidal), David Silbaugh (Summerfest, USA), John Kerridge (Gŵyl Glastonbury), A Guy Called Gerald, a llawer mwy.
Mae FOCUS Wales 2023 yn cael ei gynnal ar 4, 5 a 6 Mai ar draws sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn, gan gynnwys holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael yma
Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y PRS a Llywodraeth Cymru.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI