Mae’n ddiddadl – os gafodd ei chrefftu yng Nghymru, mae’n mynd i fod yn dda…
Felly, mae posibilrwydd fydd gennych diddordeb yn y digwyddiad hwn
Am ddim ond £20 pob person, gallwch fynychu noswaith dda o Gynnyrch, Cerddoriaeth a Barddoniaeth Cymraeg at Amgueddfa Wrecsam.
Gallwch ymbleseru mewn amrywiaeth blasus o fwydydd Cymreig, gan gynnwys caws, cynfennau a danteithion traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal â darganfod blasau a sawrau newydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yn y ffair flasus, bydd Ceinwen Roberts yn chwarae darnau heddychlon ar y delyn ac Aled Lewis Evans, awdur a bardd enwog o Wrecsam, yn adrodd barddoniaeth.
I ddod â’r noson i ben, bydd pwdin blasus a gwydraid o win ysgafn neu ddiod feddal.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 14 Gorffennaf rhwng 4.30pm ac 8pm ac mae’n rhaid archebu lle.
I archebu’ch tocynnau, ffoniwch 01978 297460, neu e-bostiwch Amgueddfa Wrecsam.
ARCHEBU FY NHOCYNNAU