Bob 15 munud ar draws y DU bydd plentyn arall yn dod i mewn i ofal sy’n golygu bod angen teulu maeth arnynt. Bob dydd, mae tua 70,000 o blant yn byw gyda 56,000 o deuluoedd maeth.
Wrth i deuluoedd ar draws y wlad geisio delio â’r argyfwng costau byw parhaus, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i gefnogi maethu, gyda’r gobaith o fynd i’r afael â’r gamdybiaeth na allwch barhau i weithio os byddwch chi’n dod yn ofalwr maeth.
Yn ystod Pythefnos Gofalwyr Maeth eleni (15-28 Mai), mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i gynnig cefnogaeth a’i gwneud yn haws i’w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, elusen faethu arweiniol y DU, mae bron 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu gyda gwaith arall, ac mae eu polisi ‘cefnogi maethu’ yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd o’r gwaith i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd trwy’r broses ymgeisio.
Mae’r cynllun yn cefnogi gweithwyr sy’n ofalwyr maeth eisoes hefyd, i ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer mynychu hyfforddiant, mynychu paneli, helpu plentyn newydd i ymgartrefu gyda nhw ac ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi.
Gallai cefnogaeth cyflogwr wneud gwahaniaeth hanfodol i benderfyniad gweithiwr i fod yn ofalwr maeth.
Mae Alison o Wrecsam yn dangos nad yw gweithio’n llawn amser yn rhwystr i ddod yn ofalwr maeth. Yn 2020, gwireddodd Alison ei breuddwyd o ddod yn ofalwr maeth wrth barhau i weithio’n llawn amser i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dywedodd: “Roeddwn i wedi bod eisiau maethu erioed, ond doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n addas oherwydd roeddwn i’n dal i weithio’n llawn amser, yn sengl a dros 50 oed! Ond mae’r tîm yn Maethu Cymru Wrecsam wedi bod mor anogol o’r dechrau. Mae’n hyblyg iawn.
“Gan fy mod i’n gweithio i Gyngor Wrecsam, rwy’n cael gwyliau blynyddol ychwanegol ar gyfer maethu gyda fy awdurdod lleol, yr wyf yn ei ddefnyddio i fynychu cyfarfodydd, hyfforddiant ac adolygiadau. Gyda chefnogaeth gan fy nheulu fy hun, fy ngweithwyr cymdeithasol a’r tîm yn Maethu Cymru Wrecsam, gyda’n gilydd, rydym wedi sicrhau bod maethu yn gweithio i mi.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant: “Mae’r cynllun cyflogwyr sy’n Cefnogi Maethu yn bwysig iawn ac mae’n cynnig cyfle i fusnesau o unrhyw faint wneud gwahaniaeth i ofalwyr maeth a’r plant maen nhw’n gofalu amdanynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n gwella cefnogaeth i’w gweithwyr eu hunain ar yr un pryd hefyd.
“Gyda chynifer o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu gyda gwaith arall, mae’n bwysig iddynt wybod bod ganddynt gyflogwr cefnogol i’w galluogi i gydbwyso cyflogaeth gyda gofalu am blant sy’n derbyn gofal. Rwy’n annog cyflogwyr yn y fwrdeistref sirol i edrych ar ffyrdd o gefnogi maethu i helpu eu gweithwyr i wneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n derbyn gofal yn Wrecsam.”
Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru helpu.
“Rydym yn gwybod ein bod yn gweld canlyniadau gwell wrth i blant aros mewn cyswllt, aros yn lleol a bod â rhywun sy’n aros gyda nhw yn yr hirdymor.
“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i fod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i aros yn eu cynefin ac yn y pen draw, eu cefnogi i gael dyfodol gwell.”
I gael rhagor o wybodaeth am fod yn ofalwr maeth yn Wrecsam ewch i: https://wrecsam.maethucymru.llyw.cymru/
I gael rhagor o wybodaeth am fod yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu yng Nghymru, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/gweithio-a-maethu/
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL