Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gweithlu yng Nghymru, gyda chyflogwyr yn rhoi mwy a mwy o bwyslais ar sgiliau iaith Gymraeg wrth chwilio am weithwyr newydd.
Cafodd plant o bedair ysgol gynradd gwahanol yn Wrecsam gyfle i siarad â gweithwyr ledled Gogledd Cymru ar gyfer diwrnod Cymraeg yn y Gweithle yn Ysgol y Grango, Rhosllanerchrugog.
Roedd yr ysgolion a oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn rhan o gynllun arbrofol a gynlluniwyd ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gyrfa Cymru a chynrychiolydd o’r ysgolion i gefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Wrecsam.
Y bedair ysgol a fu’n cymryd rhan oedd Ysgol Penycae, Ysgol ID Hooson, Yr Hafod Johnstown ac Ysgol Maes y Mynydd, gyda mwy na 160 o ddisgyblion yn cymryd rhan a siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o’r economi leol a drefnwyd gan Gyrfa Cymru.
Cafodd y disgyblion gyfle i siarad gyda gweithwyr o sefydliadau gan gynnwys:
- Rhwydweithiau Ynni Scottish Power
- Cymdeithas Adeiladu’r Principality
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Dŵr Cymru
- DFS4 / Syniadau Mawr Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Excell Supply
- Coleg Cambria
- Menter Iaith
- Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Yn y digwyddiad rhwydweithio cyflym, bu grwpiau o ddisgyblion yn treulio sesiwn 10 munud gyda phob grŵp o weithwyr, a’u holi ar fanylion fel eu gwaith o ddydd i ddydd, faint y maent yn defnyddio eu Cymraeg yn ystod y diwrnod gwaith, a’r mathau o sgiliau a chymwysterau y maent eu hangen i wneud eu swydd.
“Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i annog pobl i ddysgu Cymraeg”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Fel rhan o’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg – boed hynny trwy addysg draddodiadol, neu ffynonellau ehangach eraill y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
“Ond yn ogystal â dysgu Cymraeg i ddisgyblion, rydym hefyd eisiau dangos iddynt sut y gall y Gymraeg fod o fantais iddynt yn ddiweddarach mewn bywyd, ac agor drysau yn y gweithle.
“Gyda hynny mewn golwg, roeddem eisiau rhoi cyfle iddynt siarad gyda phobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a rhoi cipolwg iddynt ar sut y gall dwyieithrwydd fod yn fantais fawr pan ddaw i geisio gwaith.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad heddiw, yr ysgol a’r cyflogwyr.”
Meddai Lesley Lloyd, Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes gyda Gyrfa Cymru: “Bydd yr arddull gweithdy hwn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwrando, a rhoi cipolwg gwerthfawr iddynt ar wahanol swyddi a gyrfaoedd sy’n gofyn am sgiliau iaith Gymraeg.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI