Gallai cynllun peilot wneud teithio i’r ysgol yn fwy diogel ac yn haws i blant mewn rhan brysur o Wrecsam.
Bydd Cyngor Wrecsam, mewn partneriaeth â Letman Associates, yn lansio treial pedair wythnos yn Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria yn ddiweddarach y mis hwn. Mae hyn mewn ymateb i nifer o broblemau traffig y tu allan i’r ysgol, gweith dosbarth gyda disgylbion, arolygon gyda rhieni a gwarcheidwaid yn ogystal â sgyrsiau ar y stepan drws.
Bydd y treial yn gweld cyfyngiadau traffig yn cael eu cyflwyno i gyfyngu ar nifer y cerbydau all gyrru a pharcio ger yr ysgol ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Bydd hefyd treial o drefn un-ffordd ar orllewin Stryd Poyser (rhwng Ffordd Hampden a Ffordd Fictoria) fydd mewn lle 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Bydd arwyddion gwyriad mewn lle.
Dyma’r cynllun ‘Strydoedd Ysgol’ cyntaf yn Wrecsam, ac mae’n cael ei ariannu gan gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam â chyfrifoldeb dros ddiogelwch ar y ffyrdd: “Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gwrando ar ddisgyblion, rhieni a phreswylwyr am sut y gallwn ni wella’r daith i’r ysgol.
“Mae’r prif bryderon yn cynnwys lefelau uchel o draffig, yn osgytal â pharcio anystyriol ac ar balmentydd.
“Mae’r ysgol eisoes yn gweithio’n galed i leihau traffig wrth y gatiau trwy annog cerdded, a defnyddio sgwteri a beiciau – felly dyma’r lle perffaith i dreialu’r cynllun Strydoedd Ysgol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros addysg: “Rydyn ni eisiau gwneud gatiau’r ysgol yn lle mwy diogel ac iach i blant, ac os yw’r cynllun peilot yn llwyddiant, gallai baratoi’r ffordd ar gyfer treialon tebyg mewn ysgolion eraill yn Wrecsam.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Strydoedd Ysgol wedi cael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o’r DU gyda chryn lwyddiant.
“Dim ond yn ystod adegau allweddol o’r dydd y daw cyfyngiadau traffig i rym, felly mae unrhyw aflonyddwch ar fodurwyr yn cael ei leihau, ac mae’r plant yn fwy diogel.”
Bydd y treial ar Stryd Poyser yn dechrau ar ddydd Llun, Medi’r 29ain., ac mae trigolion, rhieni a disgyblion lleol yn cael y newyddion diweddaraf am y cynllun yn ogystal â chael eu annog i roi cynnig ar deithio mewn moddau gwahanol i’r ysgol a thu hwnt.
