Gallai rheolwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Phil Parkinson, dderbyn rhyddid y fwrdeistref sirol, yn dilyn dyrchafiadau cefn-wrth-gefn-wrth gefn hanesyddol y clwb.
Yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 13 Mai, cytunodd Bwrdd Gweithredol ystyried argymell i’r Cyngor llawn fod Mr Parkinson yn derbyn yr anrhydedd, ar ôl llywio’r clwb i ddyrchafiad dros dri thymor yn olynol.
Bydd yr argymhellion rwan yn cael eu hystyried mewn cyfarfod Cyngor llawn, sy’n cynnwys pob un o’r 56 cynghorydd o bob rhan o’r fwrdeistref sirol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Yn 2022, rhoddodd y Cyngor ryddid y fwrdeistref sirol i berchnogion y clwb, Rob McElhenney a Ryan Reynolds.
“Mae cael trafodaeth debyg am roi’r un anrhydedd i Phil Parkinson yn ymddangos yn briodol, gan ei fod wedi gwneud gwaith anhygoel wrth fynd â’r tîm o’r Gynghrair Genedlaethol i bêl-droed y Bencampwriaeth dros y tri thymor diwethaf.
“Mae’r hyn mae’r clwb wedi’i gyflawni yn anhygoel – nid yn unig o ran llwyddiant ar y cae, ond hefyd o ran yr effaith ar y ddinas gyfan. Mae wedi rhoi hyder newydd i Wrecsam.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn i’r Bwrdd Gweithredol ar wefan y Cyngor.