Gyda’n sylw ar bethau eraill oherwydd sefyllfa bresennol Covid-19, mae’n bosibl ei bod wedi bod yn rhwydd methu rhai newidiadau pwysig i’r drefn bleidleisio a gafodd eu gweithredu’n ddiweddar.
Oeddech chi’n gwybod, o 1 Mehefin, bod hyd yn oed mwy o bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru yn gallu cymryd rhan yn etholiadau Senedd Cymru bellach?
Beth yw’r newidiadau?
Bydd pobl ifanc 16 oed a hŷn a dinasyddion tramor cymwys 16 oed neu hŷn yn gallu cymryd rhan yn etholiadau Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.
Hefyd, bydd y newid yn y gyfraith yn golygu bod modd i bobl ifanc 14-16 oed gofrestru i bleidleisio hefyd, ac mae modd gwneud hynny nawr.
Roedd y ddau newid hyn o ganlyniad i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
Cynhelir etholiad nesaf Senedd Cymru ddydd Iau, 6 Mai, 2021, i ethol 60 o aelodau i Senedd Cymru.
Dywedodd Caroline Bennett, Cydlynydd Cyfranogi: “Mae’r newidiadau hyn i’w croesawu’n fawr a byddant yn caniatáu i hyd yn oed fwy o bobl ifanc gael dweud eu dweud a llunio eu dyfodol eu hunain trwy gymryd rhan yn etholiadau’r Senedd. Mae’n newyddion gwych, ac mae’n bwysig iawn hefyd ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i ledaenu’r neges a sicrhau bod y bobl ifanc yn ein bywydau yn ymwybodol bod modd iddynt gymryd rhan.
“Felly rhowch wybod i’r bobl ifanc yn eich bywydau am y newidiadau a’u hannog i gymryd rhan yn yr etholiadau nesaf. P’un a ydych yn rhiant, perthynas neu athro, gallwn i gyd helpu i ledaenu’r gair.”
I gofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN