Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Galwad ar unrhyw blant a phobl ifanc rhwng 11-25 oed. Mae eich iechyd a’ch lles yn bwysig!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Galwad ar unrhyw blant a phobl ifanc rhwng 11-25 oed. Mae eich iechyd a’ch lles yn bwysig!
Pobl a lleY cyngor

Galwad ar unrhyw blant a phobl ifanc rhwng 11-25 oed. Mae eich iechyd a’ch lles yn bwysig!

Diweddarwyd diwethaf: 2018/06/26 at 2:15 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham Health Wellbeing Info Shop
RHANNU

Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu cyhoeddi am Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018

Cynnwys
A ydych wedi clywed am y Siop Wybodaeth?“Nid wyf erioed wedi cael fy meirniadu”YsbrydoliCwnsela ‘Outside in’Gwasanaeth Eirioli Ail LaisGwasanaeth Iechyd Rhywiol“Cyfle perffaith i gyfarfod y tîm”

Os ydych yn byw, yn gweithio neu mewn addysg yn Wrecsam, mae amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor am ddim ar eich stepen drws! Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, rydym yn anelu i amlygu’r gwasanaethau rhagorol hyn ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11-25 oed…

A ydych wedi clywed am y Siop Wybodaeth?

Mae’r Siop Wybodaeth yn rhoi mynediad at wybodaeth, cyngor, cefnogaeth, adfocatiaeth a gwasanaethau cwnsela i bobl ifanc.

Maent yn cynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc rhwng 11-25 oed am unrhyw ymholiad, yn amrywio o bris tocyn Glastonbury i gefnogaeth am broblemau iechyd meddwl neu gydnabod anghenion iechyd rhywiol.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Gallwch ddod o hyd i’r siop Wybodaeth ar Stryt y Lampint yn Wrecsam.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Y nod yw galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau cytbwys. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys amrywiaeth o ymyriadau yn seiliedig ar anghenion a dymuniadau pob person ifanc.

“Nid wyf erioed wedi cael fy meirniadu”

Dyma eiriau un person ifanc a ddefnyddiodd y gwasanaeth: “Mae In2change wirioneddol wedi fy helpu pan oedd angen cefnogaeth arnaf. Nid wyf erioed wedi cael fy meirniadu ac rwyf bob amser yn teimlo fy mod wedi derbyn gofal trylwyr ac yn gallu symud ymlaen bob tro.”

Ysbrydoli

Prosiect gwaith ieuenctid yw Ysbrydoli wedi ei leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam sy’n cefnogi neu’n gweithio gyda phobl ifanc, rhwng 11-18 oed, sy’n hunan-niweidio.
Mae’r prosiect yn helpu pobl ifanc i adeiladu ar eu strategaethau ymdopi, sgiliau datrys problemau a’u hyder, yn ogystal â chynnig oedolyn dibynadwy y gallent siarad â nhw.

Cwnsela ‘Outside in’

Mae’r tîm Cwnsela ‘Outside in’ yn cefnogi plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Wrecsam. Mae’r tîm yn cynnig darpariaeth mewn 8 ysgol gynradd, bob ysgol uwchradd ac o fewn y siop Wybodaeth sy’n cynnig sesiynau i bobl hyd at 25 mlwydd oed.

Mae ein tîm wedi ei ffurfio gan amrywiaeth o gwnselwyr profiadol ac yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol gydag amser a chyfle i siarad am unrhyw broblemau a allai fod yn eu pryderu.

Gwasanaeth Eirioli Ail Lais

Dyma ddarpariaeth sy’n agored i unrhyw blant a phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd angen cefnogaeth neu gynrychiolaeth. Gallant helpu i sicrhau bod teimladau a dymuniadau yn cael eu clywed neu sicrhau bod rhywbeth yn cael ei gychwyn neu ei newid.

Y nod yw sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn ystod unrhyw broses o wneud penderfyniad a allai gael effaith arnynt, boed yn fwlio yn yr ysgol neu’n herio penderfyniad budd-dal.

Gwasanaeth Iechyd Rhywiol

Mae ‘Cyswllt’ yn agored i bobl ifanc alw heibio gyda’r nod o ddarparu awyrgylch gyfforddus a chyfrinachol i bobl ifanc. Yma, gallant gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth ar unrhyw faterion iechyd rhywiol.

Mae’r gwasanaeth yn anelu i helpu pobl ifanc deimlo’n gadarnhaol am eu hiechyd rhywiol, darparu atebion pan yn bosibl a gwella iechyd a lles. Mae bron i 12,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.

“Cyfle perffaith i gyfarfod y tîm”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwrthdlodi a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae’r digwyddiad yn Nhŷ Pawb i ddathlu wythnos Gwaith Ieuenctid, yn gyfle perffaith i gyfarfod y timau a sgwrsio am y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Mae’r timau ieuenctid yn darparu cefnogaeth ac addysg angenrheidiol i bobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol. Bydd y digwyddiad yn arddangos y gwasanaethau a bydd nifer o weithgareddau ymlaen hefyd, megis sesiwn meic agored yn rhedeg rhwng 1pm a 3pm.”

Os hoffech gyfarfod y timau neu ddarganfod mwy am y gwaith y maent yn ei wneud, mi fyddan nhw yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn, 30 Mehefin. Fel arall, ffoniwch y Siop Wybodaeth ar 01978 295600 neu drwy e-bost infoshop@wrexham.gov.uk.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Rhannu
Erthygl flaenorol Plant fydd yn cael y gair olaf ar wobr yr amgueddfa Plant fydd yn cael y gair olaf ar wobr yr amgueddfa
Erthygl nesaf Wrexham Council Heart Local Government Eisiau gweithio yng nghalon llywodraeth leol?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 3, 2025
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
DigwyddiadauPobl a lle

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!

Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English