Bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, wedi ei gynrychioli gan y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol lleol, Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (NWAS), yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ystyried mabwysiadu.
Ers ffurfio’r gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn 2014, mae wedi cefnogi nifer o siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu trwy sicrhau bod deunyddiau a hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg fel y gall pawb dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd stondin y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau amser stori, creu blancedi, ac addurno cacennau a bisgedi.
Yn anelu at sbarduno sgyrsiau am y broses fabwysiadu, maent am herio camsyniadau ynghylch gwneud ymholiadau yn y Gymraeg – ac annog mwy o bobl i gymryd y cam i gefnogi’r 250 o blant sy’n aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru darged strategol i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ledled gogledd Cymru, mae bron i hanner y boblogaeth yn medru rhywfaint o Gymraeg. Yn ôl ystadegau diweddaraf Dangosydd yr Iaith Gymraeg, roedd 17 y cant o oedolion yn Wrecsam yn siarad Cymraeg gydag’r 1 o bob 5 arall yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg.
Dywedodd Mihaela Bucutea, rheolwr tîm gweithredol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru:
“Fel gwasanaeth rhanbarthol sy’n rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i bob teulu sydd ei angen – gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, bob cam o’u taith.
“Os hoffech chi ragor o wybodaeth, neu gael sgwrs, byddem yn eich annog i gysylltu a gwneud ymholiad.”