Mwahahahahahahahaha… (peswch – peswch)
Esgusodwch ni, dim ond clirio’n gyddfau oeddem ni!
Mae yna lawer o straeon hanesyddol yn eich ardal leol – mae rhai ohonynt yn hyfryd – efallai hyd yn oed yn anhygoel – ac mae rhai ohonynt yn GWBL ARSWYDUS!
Rydym yn mynd i sôn am rai o’r mythau annifyr sy’n bodoli. Efallai eich bod wedi clywed am rai ohonynt o’r blaen – ac fe allai eich bod yn eu clywed am y tro cyntaf…
Beth bynnag ydi’r sefyllfa…paratowch am antur….
Dyma ychydig o straeon allan o Haunted Clwyd gan Richard Holland. Mae’n llyfr bach gwych sy’n cynnwys llawer o straeon lleol.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
‘Lady Blackbird’
Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae pentref Marford ger Wrecsam yn enwog am ei dai steil “torth sinsir”. Maent yn dai dymunol iawn ac yn llawn cymeriad.
Ac mae croes wedi cael ei gynnwys yn eu dyluniad…
Ond mae’r rheswm dros eu hadeiladu yn y steil yma’n llawer mwy sinistr. Cafodd y tai 19eg ganrif eu hadeiladu fel hyn i ddychryn ysbryd!
Dyma hanes o ddial o du hwnt i’r bedd…
Yn 1713, cafodd Madam Margaret Blackbourne o Neuadd Rofft ei llofruddio’n giaidd gan ei gŵr anffyddlon, George Blackbourne, Ni chafodd unrhyw un ei gosbi am y llofruddiaeth gan fod y crwner (a oedd digwydd bod yn perthyn i George) wedi rhoi rheithfarn o farwolaeth trwy anffawd…mewn geiriau eraill, damwain.
Priododd George wraig newydd, iau chwe mis yn ddiweddarach – ond ni chawsant unrhyw lonydd gyda’i gilydd…
Yn ôl y sôn, llwyddodd corff Margaret i grafangu ei ffordd allan o’i harch a cherdded trwy bentref Marford. Fe stopiodd ym mhob tŷ, a thapio ar eu ffenestri – gan godi braw ar y preswylwyr.
Yna fe aeth draw i’w hen gartref, ac yn benodol i ystafell wely y pâr priod i wynebu George a’i wraig newydd. Gwnaeth Margaret y siwrnai hon bob nos… ac fe glôdd trigolion y pentref eu hunain yn eu cartrefi, a symudodd George a’i wraig i’r Orsedd i ddianc rhagddi.
Ond fe ddilynodd hi nhw!
Ymhen amser, fe alwyd yr archddiacon i ‘weddïo’ am yr ysbryd, ond dim ond yn rhannol llwyddiannus fuodd o. Er bod ei chorff bellach yn gorffwys, parhaodd ei hysbryd i grwydro – a dyna’r rheswm pam fod y croesau wedi cael eu hadeiladu mewn i dai a fyddai’n cael eu hadeiladu yn y dyfodol.
Mae hanes trasig Margaret Blackbourne bellach yn chwedl ac erbyn hyn caiff ei galw yn ‘Lady Blackbird’.
Bwganod ar eich stryd fawr?
Mae gan eiddo ar Stryd Fawr Wrecsam hen hanes am ysbryd. Fe symudodd broceriaid yswiriant i’r eiddo yn 1986, ac yn fuan wedyn, fe aeth pethau ychydig yn rhyfedd…
Disgiau cyfrifiadur yn taflu eu hunain ar draws ystafell, cyfnodau o oerni a chynhesrwydd annisgwyl, cabinetau ffeil yn agor a chau’n sydyn – unrhyw beth y gallwch feddwl amdano! Yn ôl y sôn, fe ddechreuodd peiriant llungopïo ollwng dŵr!
Ac yn y boreau ar ôl i hyn ddigwydd, yn ôl y sôn roedd dŵr i’w ganfod yn diferu o offer a socedi gwahanol. Cafodd peirianwyr eu galw allan – ond ni allent ddatrys y dirgelwch. Fe lenwodd un peiriannwr ei gerdyn adroddiad gydag un gair… “rhyfedd”.
Byddai’r hylif yn gadael gweddillion lliw llaeth. Cafodd ei anfon i gael ei ddadansoddi, ond ni chafodd ei enwi.
Ac yna daeth y cyfan i stop! Yn gyflym fel ‘na… a chafodd y dirgelwch erioed ei ddatrys.
Yn fuan wedi hynny, cyhoeddodd papur yr Evening Leader erthygl am y digwyddiadau rhyfedd yn yr adeilad. Soniodd rhywun oedd yn gweithio yno am eu profiadau dros sawl blwyddyn:
“Sawl gwaith, roeddwn i’n teimlo bod rhywun nad oeddwn yn gallu ei g/weld yn sefyll y tu ôl i mi. Roedd o’n deimlad rhyfedd iawn. Roedd cyfrif stoc fin nos yn anodd bob amser. Fyddai neb o’r staff yn fodlon aros yn hwyr”.
Hmm…rhyfedd iawn.
Os wnaethoch fwynhau’r straeon yma, fe allai fod yn werth mynd draw i ystafell chwilio’r archifau yn Amgueddfa Wrecsam.
Mae’r straeon hyn i’w gweld yn llyfr Haunted Clwyd gan Richard Holland, ac mae’n un o sawl llyfr sydd i’w gweld yn yr ystafell archwilio.
Dywedodd Jonathon Gammond, Swyddog Dehongli a Mynediad yn Amgueddfa Wrecsam:
“Mae yna lawer mwy o lyfrau ac erthyglau am hanes yr ardal. Mae’r cyfan ar gael am ddim yn yr ystafell chwiliad ar ddydd Llun, Mercher, Iau a Gwener bob wythnos.
“Fe hoffem dawelu meddwl defnyddwyr posibl bod unrhyw weithgaredd goruwchnaturiol yn gysylltiedig â rhannau eraill o’r adeilad a bod y safleoedd yn Y Bers – yr ystafell archwilio yn eithaf diogel… yn ystod oriau gwaith beth bynnag.”
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU