A hoffech chi ddod allan o’r haul i fwynhau cerddoriaeth fyw am ddim?
Bydd Tŷ Pawb yn cynnal cyngerdd amser cinio gan y pianydd ifanc arobryn, Elias Ackerley ar ddydd Iau.
Bydd Elias yn chwarae detholiad o ddarnau gan Bach a Rachmaninoff.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Pianydd sydd wedi ennill gwobrau
Dechreuodd y 17-mlwydd oed ei astudiaethau piano yn Ne Korea, pan oedd yn bum mlwydd oed. Rhoddodd ei gynhadledd gyntaf yng Nghaer ym mis Mai 2013, ac mae wedi perfformio’n rheolaidd fel unawdydd erioed ers hynny.
Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i berfformio o flaen cynulleidfaoedd enfawr ac ennill nifer o wobrau – gan gynnwys y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Piano Ieuenctid Rhyngwladol yr Alban, y Ribbon Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth Beethoven Ysgol Cerdd Chetham.
Edrychwch ar y fideo hwn o Elias sy’n perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gael blas o’r hyn i’w ddisgwyl…
Bydd Elias Ackerley yn cynnal datganiad amser cinio yn Oriel 2 o Dŷ Pawb o 1yp tan 2yp ddydd Iau, Gorffennaf 12.
Mae’r cyngerdd yn rhad ac am ddim – felly nid oes gan bobl sy’n hoffi gerddoriaeth unrhyw esgus!
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB