Erthal Gwadd: CThEM
Mae cyplau priod yn cael eu hannog i ystyried rhoi Lwfans Priodasol yn anrheg i’w gŵr, gwraig neu bartner sifil ar Ddydd Sant Ffolant eleni, gan arbed hyd at £252 y flwyddyn.
Mae dros 2.1 miliwn o gyplau’n elwa ar Lwfans Priodasol ar hyn o bryd, ond mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn amcangyfrif bod miloedd yn fwy o gyplau’n colli allan oherwydd nad ydynt yn sylweddoli y gallent fod yn gymwys. Mae hyn yn arbennig o wir mewn cyplau lle mae un partner wedi ymddeol, wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn ymgymryd â dyletswyddau gofal, neu’n methu â gweithio oherwydd cyflwr iechyd hirdymor.
Er mwyn gostwng faint o dreth maent yn ei thalu, mae cwsmeriaid sy’n ennill llai na £12,570 y flwyddyn yn gallu trosglwyddo hyd at £1,260 o’u Lwfans Personol i’w partner sydd â chyflog uwch. Maent yn gallu ôl-ddyddio eu hawliad i gynnwys unrhyw flwyddyn dreth hyd at 6 Ebrill 2018, a gallai hyn arwain at ryddhad treth gwerth hyd at £1,242.
Gall cyplau ddefnyddio’r gyfrifiannell Lwfans Priodasol, sy’n rhad ac am ddim, ar GOV.UK er mwyn gwirio a ydynt yn gymwys i gael y rhyddhad treth.
Meddai Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF, “Rydyn ni eisiau i bob cwpl sy’n gymwys elwa ar ryddhad treth lwfans priodasol. Efallai na fydd cyplau’n sylweddoli eu bod yn gymwys i hawlio ar ôl newid yn ei hamgylchiadau – er enghraifft os yw un ohonyn nhw wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi cymryd swydd â chyflog is.
“Mae’n hawdd cael gwybod am yr hyn y gallech ei gael – ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Marriage Allowance calculator’ fel cam cyntaf. Drwy wneud cais ar GOV.UK yn hytrach na thrwy drydydd parti, byddwch chi’n gallu cadw 100% o’r rhyddhad treth sy’n ddyledus.”
Mae’r sawl sy’n gymwys yn gallu gwneud cais ar GOV.UK yn rhad ac am ddim, a chadw 100% o’u hawliad. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn arwain at ostyngiad yn swm y dreth a delir gan y partner sydd â chyflog uwch.
Gall cyplau elwa ar Lwfans Priodasol os yw’r meini prawf canlynol yn berthnasol:
- maen nhw’n briod neu mewn partneriaeth sifil
- nid ydynt yn talu Treth Incwm, neu mae eu hincwm o dan y Lwfans Personol, sef £12,570
- mae un partner yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol – sydd fel arfer yn golygu bod incwm y partner hwnnw rhwng £12,571 a £50,270
Gellir canslo Lwfans Priodasol ar GOV.UK os bydd amgylchiadau cwpl yn newid.
I ddysgu am y cymorth arall sydd ar gael gan y llywodraeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Help for Households’
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD