Ydych chi’n darparu gofal di-dâl i ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog, na allai ymdopi heb y cymorth hwnnw?
Os ydych chi, mae arnom eisiau gwybod am eich profiadau fel gofalwr di-dâl sy’n defnyddio gwasanaethau yn Wrecsam ac yn gofyn i chi lenwi arolwg i ofalwyr di-dâl. Mae’n gyfle i chi roi gwybod i ni beth sy’n gweithio’n dda a beth ellid ei wneud yn well ac mae gennych hyd at 31 Awst 2023 i’w lenwi.
Meddai’r Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae’r arolwg hwn yn hynod o bwysig i ni. Mae arnom eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar ofalwyr di-dâl yn Wrecsam ac yn darparu’r gwasanaethau, y cyngor a’r wybodaeth y mae arnynt ei angen. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn ein helpu i siapio’r gefnogaeth rydym yn ei gynnig i ofalwyr di-dâl. Byddwn yn annog pawb sy’n darparu gofal di-dâl i lenwi’r arolwg.”
Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) sy’n darparu gwasanaethau i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam. Maent yn cynnal grwpiau, cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cynnal asesiad o anghenion gofalwyr (sgyrsiau Beth sy’n Bwysig) ar ran Cyngor Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam, ewch i dudalennau Gofalwyr Di-dâl ar y wefan.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.