Mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Uchel Lys Cyfiawnder, Adran Mainc y Frenhines, Cofrestrfa Dosbarth Wrecsam ar gyfer gwaharddeb dros dro i ddiogelu tir a choetir ar Ffordd Bower, Acrefair.
Yn ystod y misoedd diweddar mae trigolion a swyddogion y cyngor wedi bod yn bryderus iawn ynghylch dinistr a gwaith sy’n cael ei wneud ar y safle ac maent wedi cymryd camau anarferol iawn i wneud cais am orchymyn gwahardd.
Meddai’r Cyng. David Kelly, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae gwneud cais i’r llysoedd am orchymyn o’r fath yn anarferol iawn i ni ac yn un na wnaethom ni ar chwarae bach ond, yn hytrach, yn niffyg dim arall. Ar ôl i sawl hysbysiad i ddod â’r gwaith i ben ac adfer yr ardal gael ei anwybyddu, roeddem yn teimlo nad oedd dewis arall ar gael.
“Hoffaf ddiolch i swyddogion y cyngor a oedd yn ymwneud â’r achos hwn am eu hymrwymiad i’r amgylchedd ac am ymateb i bryderon y trigolion. Rydym ni’n gobeithio y bydd y waharddeb yn mynd i’r afael â’r broblem ac y bydd y gwaith yn stopio a chamau yn cael eu cymryd i gywiro’r difrod a achoswyd.”
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN