Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb
Y cyngorDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb

Diweddarwyd diwethaf: 2024/07/11 at 1:10 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Plastic Free July - reusable water bottle
RHANNU

Mae Gorffennaf Di-blastig yn fudiad byd-eang i helpu miliynau o bobl i fod yn rhan o’r ateb i lygredd plastig er mwyn darparu strydoedd, moroedd a chymunedau hyfryd a glanach.

Cynnwys
Mae’r siop ailddefnyddio’n rhoi bywyd newydd i’ch deunyddiau plastigAilgylchu plastig yn WrecsamBeth nad ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?A ydw i’n gallu ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd?

A fedrwch chi wrthod defnyddio deunyddiau plastig untro drwy gydol mis Gorffennaf? Efallai bod hyn yn ymddangos yn heriol, ond yn aml iawn, mae digon o opsiynau amgen i blastigion untro sydd bellach yn gyffredin iawn yn ein bywydau bob dydd.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i leihau eich defnydd o blastig:

  • Defnyddio neu fenthyg cwpan goffi y gellir ei hailddefnyddio, neu beth am fwyta i mewn yn eich caffi lleol?
  • Ceisiwch ddod o hyd i opsiynau di-blastig wrth brynu ffrwythau a llysiau (prynwch ffrwythau a llysiau rhydd lle bo modd)
  • Defnyddiwch eich bagiau siopa eich hunan y gellir eu hailddefnyddio
  • Dewch â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio yn hytrach na phrynu rhai plastig
  • Osgowch yr hambyrddau plastig a ddefnyddir ar gyfer cig, pysgod ac eitemau deli 
  • Ailddefnyddiwch gynwysyddion bocsys bwyd
  • Ceisiwch ddefnyddio pecynnau bwyd y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na ffilm blastig
  • Defnyddiwch far sebon yn hytrach na sebon hylif
  • Rhowch gynnig ar gynnyrch di-blastig yn eich cartref – er enghraifft, sbyngau glanhau a chwistrellwyr glanhau y gellir eu hail-lenwi

Gallwch ddysgu mwy a chymryd rhan drwy ymweld â gwefan Gorffennaf di-blastig.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r siop ailddefnyddio’n rhoi bywyd newydd i’ch deunyddiau plastig

Os ydych chi’n bwriadu gwaredu eitemau plastig fel dodrefn gardd neu deganau, a’u bod nhw mewn cyflwr da, yna beth am eu rhoi i’r siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn…yn ogystal ag ailgylchu’r eitemau, mi fyddwch chi hefyd yn helpu elusen leol.

Hosbis Tŷ’r Eos sy’n rhedeg y siop a gallwch gyfrannu yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam. Mae ardal wedi’i neilltuo ar gyfer pobl sy’n dymuno gadael eitemau ym mhob un ohonynt… os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd, gofynnwch i un o’n cynorthwywyr a fydd yn hapus i’ch helpu.

Ailgylchu plastig yn Wrecsam

Mae’n hollbwysig eich bod yn ailgylchu unrhyw ddeunyddiau plastig yr ydych yn eu defnyddio, ac yn Wrecsam, mae modd ailgylchu llawer o gynwysyddion plastig.

A wyddoch chi y gallwch ailgylchu POB potel blastig a PHOB mathau o hambyrddau bwyd plastig, potiau plastig a thybiau plastig ar ochr y ffordd yn Wrecsam? Dylai dilyn hyn eich cadw chi ar y trywydd cywir.

Ond, i’ch helpu chi i ddeall hyn ychydig yn well, dyma ychydig o enghreifftiau o’r eitemau arferol o’r cartref sy’n gallu cael eu hailgylchu.  Sef:

  • Potiau iogwrt
  • Tybiau menyn/margarin
  • Tybiau prydau parod
  • Poteli siampŵ
  • Poteli gel cawod
  • Poteli cynnyrch glanhau cegin/ystafell ymolchi (yn cynnwys rhai chwistrellu)
  • Basgedi ffrwythau (ond nid y ffilm na’r papur swigod)
  • Y bocsys clir mae bwyd Tsieineaidd/Indiaidd yn aml yn dod ynddyn nhw
  • Poteli ysgytlaeth
  • Hambyrddau cig
  • Tybiau hufen iâ
  • Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)

Ond gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n lân, heb unrhyw weddillion bwyd na diod ynddyn nhw cyn i chi eu rhoi yn y cynwysyddion ailgylchu.

Beth nad ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?

Y pethau mwyaf cyffredin y mae pobl yn ceisio eu hailgylchu nad oes modd eu hailgylchu ar hyn o bryd ar ymyl y palmant yw bagiau bwyd plastig o bob math, bagiau cario plastig, cling ffilm, plastig swigod a phecynnau creision. Gellir ailgylchu rhai o’r eitemau hyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd.

Yn ogystal â’r eitemau uchod, ni allwn dderbyn eitemau polystyren, plastigion caled (gellir ailgylchu’r rhain yn ein canolfannau ailgylchu) teganau, bocsys Tupperware, pecynnau fferins, tiwbiau past dannedd, raseli plastig, neu becynnau reis y gellir eu rhoi yn y ficrodon.

A ydw i’n gallu ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd?

Nid oes modd ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd, megis potiau planhigion, ar ymyl y palmant ar hyn o bryd, ond gallwch eu hailgylchu yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.

Gellir ailgylchu deunyddiau plastig caled eraill megis cyllyll a ffyrc plastig neu gesys CD/DVD yma hefyd.

Cofiwch: Mae Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn para tan fis Chwefror 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch ar gyfer ein negeseuon e-bost ailgylchu…

TAGGED: ailgylchu, amgylchedd, environment, plastic, plastig, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun 'enfawr' diweddaraf Wrecsam! Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!
Erthygl nesaf Cefn y rhwyd! Prosiect i greu Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru ar y gweill! Cefn y rhwyd! Prosiect i greu Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru ar y gweill!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg Gorffennaf 25, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 25, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Busnes ac addysgDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles

Gorffennaf 25, 2025
Plastic Free July - reusable water bottle
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd

Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English