Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gorsaf monitro aer yn Y Waun bellach ar waith
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gorsaf monitro aer yn Y Waun bellach ar waith
ArallPobl a lle

Gorsaf monitro aer yn Y Waun bellach ar waith

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2020 11:25 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gorsaf monitro aer yn Y Waun bellach ar waith
RHANNU

Mae yna newyddion da i drigolion Y Waun yn dilyn gosod Monitor Ansawdd Aer ar Lôn Lloyd. Bydd y monitor newydd hwn, a ariannwyd gan Kronospan fel rhan o ganiatâd cynllunio diweddar, yn mesur lefelau dau lygrydd allweddol dros y pum mlynedd nesaf, i gyd-fynd â’r gwaith monitro parhaus sydd eisoes yn mynd rhagddo yn Y Waun.

Bydd y data a gofnodir ar gael ar unwaith ar lein, ac yn dilyn y tân yn yr ardal ym mis Ionawr, bydd hyn yn cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl i drigolion o ran yr hyn sy’n mynd ymlaen o’u hamgylch.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae trigolion Y Waun wedi gofyn ers cryn dipyn o amser am gael gosod monitor ansawdd aer parhaol, ac rwy’n falch iawn fod yr orsaf hon bellach ar waith ac yn darparu data buddiol.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

“Pe bai digwyddiad tebyg yn codi eto, byddai canlyniadau’r monitro’n dangos a oes yna lefelau uwch o unrhyw lygryddion yn yr aer, ac yn gadael i’n swyddogion ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gymryd y camau mwyaf priodol.

“Yn ystod y digwyddiad blaenorol, bu’n rhaid i’r trigolion aros i gyfarpar monitro ansawdd aer gyrraedd o Dde Cymru, a gymhlethodd ymhellach sefyllfa a oedd eisoes yn un anodd. Wnaiff hyn ddim digwydd eto diolch i’r orsaf hon.”

Mae’n bosib mynd i weld canlyniadau’r monitro ar lein yn www.airqweb.co.uk, neu drwy ddefnyddio’r ap AirQApp ar ffôn clyfar sy’n cydweddu.

Beth mae’r orsaf monitro aer yn ei wneud?

Mae’r orsaf yn monitro am y llygryddion canlynol a ddisgrifir yma:
• Gronynnau mân
• Ocsidiau Nitrogen

Rheolir lefelau’r llygryddion hyn gan Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 (fel y’u diwygiwyd)

Mae hefyd yn monitro am:
• Gyfansoddion Organig Anweddol, sef amrediad o gemegion organig sy’n anweddu’n hawdd ar dymheredd ystafell;
• Cyflymder a Chyfeiriad y Gwynt.

Mae’n bosib mynd i weld y lefelau uchod naill ai yn www.airqweb.co.uk, neu drwy ddefnyddio’r ap AirQApp ar ffôn clyfar sy’n cydweddu.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn diweddaru ein gwefan Ansawdd Aer, a fydd yn cynnig manylion pellach am sut i ddehongli’r canlyniadau oddi ar y wefan. Byddwn hefyd yn cynnig crynodeb o’r canlyniadau monitro yn ein hadroddiad Ansawdd Aer blynyddol, a gaiff ei asesu gan Lywodraeth Cymru ac yna ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Back to school Nodyn atgoffa – mae canllawiau mynd nôl i’r ysgol dal i fod yn eithriadol o bwysig
Erthygl nesaf GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English