Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch
ArallPobl a lle

GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch

Diweddarwyd diwethaf: Medi 16, 2020 9:45 am
Rhannu
Darllen 4 funud
GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch
RHANNU

Mae Safonau Masnach yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad lle bu i silindr nwy rwygo mewn gardd yn Wrecsam, gan achosi i nwy propan ddianc yn gyflym. Wnaeth y nwy ddim tanio, ond oherwydd grym y nwy a ddihangodd, saethodd y botel a’r barbeciw oedd yn sownd ynddi ar draws yr ardd a bwrw drwy ffens bren.

Mae Safonau Masnach yn Wrecsam yn galw yn ôl pob silindr nwy LPG Gaslight a brynwyd yn Smithy View Service Station ers 1 Ionawr 2020.

Mae Swyddogion wedi cydweithio’n agos â’r cyflenwr nwy cenedlaethol, Flogas Britain Limited a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ond mae’n anodd sefydlu’n bendant yr union reswm dros y methiant, a gallai fod yn ganlyniad un neu fwy o achosion posib.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Cafodd Smithy View Service Station nifer fechan o’r silindrau hyn y tu allan i’r llwybrau cyflenwi arferol, ac nid oeddent wedi bod drwy’r gweithdrefnau profi ac archwilio arferol y byddai Flogas yn eu dilyn fel arfer, sydd o’r pwys mwyaf. Mae diogelwch cwsmeriaid, gweithwyr a’r cyhoedd yn ehangach yn hanfodol i weithrediadau busnes Flogas. Mae LPG yn hynod ddiogel o’i ddefnyddio, ei drin a’i storio’n gywir ac mae gan Flogas brosesau rheoli diogelwch trwyadl i sicrhau diogelwch parhaus y cyhoedd. Gan y gallai silindrau eraill fod allan ar y farchnad sy’n cyflwyno risg o’r un math o fethiant, mae’r Cyngor, yn gweithio gyda Flogas, yn cyhoeddi’r cais brys canlynol.

Os ydych chi wedi prynu silindr LPG Gaslight gan Smithy View Service Station, Ffordd Caer, Wrecsam yn y 10 mis diwethaf, rydym yn eich cynghori’n gryf i ffonio Flogas ar 0800 574 574.  Os byddant yn canfod bod gennych chi silindr nad yw wedi cael ei brofi, bydd Flogas yn rhoi un newydd i chi Am Ddim, er mwyn i chi gael parhau i ddefnyddio LPG yn ddiogel ar gyfer eich gweithgareddau hamdden.

Mae yna hefyd nifer cyfyngedig o silindrau LPG propan dur coch a gyflenwyd gan Smithy View Service Station, nad ydynt wedi cael eu profi na’u harchwilio gan nad yw’r silindrau wedi cael eu dychwelyd i’r perchennog (Flogas) i’w hail-lenwi. Mae’r silindrau hyn wedi cael eu hail-lenwi’n lleol, gan osgoi’r holl reoliadau diogelwch. Mae’r rhain yn lliw coch a bydd y cylch data profi sy’n sownd yn y silindr ar goll. Dylai hwn fod i’w weld yn amlwg o dan falf y silindr, a dylai edrych fel y llun a ddangosir.

Cysylltwch â Flogas Britain, fydd yn cydlynu’r broses o alw’r cynnyrch hwn yn ôl ar ran swyddfa safonau masnach Wrecsam, drwy ffonio 0800 574574 neu drwy alw draw i safle Flogas Wrecsam yn Maelor Works, Marchwiail, Wrecsam LL13 0UW.

Nid oes unrhyw bryderon am silindrau nwy y mae unrhyw ddosbarthwr arall wedi’u cyflenwi.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’n hanfodol bwysig i’r cyhoedd dalu sylw i’r rhybudd hwn. Mae hwn yn fater difrifol iawn ac mae’n gas i gen i feddwl am ganlyniadau tanio potel nwy wedi’i rhwygo. Mae gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn cydweithio’n agos â Flogas i ganfod a chael gwared ar unrhyw silindrau nwy allai fod yn beryglus, a byddwn yn annog y cyhoedd i chwilio a oes ganddynt botel, a meddwl yn galed i gofio o lle y cawsant hi. Os oes gennych chi botel nwy a gawsoch o Smithy View Garage, mae angen i chi gymryd camau a dilyn y cyfarwyddiadau.”

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gorsaf monitro aer yn Y Waun bellach ar waith Gorsaf monitro aer yn Y Waun bellach ar waith
Erthygl nesaf ty pawb open Arddangosfa Agored Tŷ Pawb: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y Cyfnod Cloi-i-lawr.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English