Erthygl Gwadd – Groundwork
Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi cyrraedd rhestr y 100 o fentrau cymdeithasol gorau yn y Deyrnas Unedig, sef NatWest SE100 Index 2024, am y 5ed flwyddyn yn olynol.
Sefydlwyd rhestr NatWest SE100 Index yn 2010 gan Pioneers Post a NatWest i gydnabod a gwobrwyo’r 100 o fentrau cymdeithasol gorau yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Cafodd yr enillwyr ar restr SE100 eleni eu dewis yn ôl meini prawf gwahanol i adlewyrchu eu busnes a’u heffaith, a chafodd mentrau cymdeithasol eu hasesu yn ôl meysydd fel perfformiad ariannol, pa mor drylwyr maent yn mesur ac yn rheoli eu heffaith, a’u hymrwymiad i faterion hinsawdd a gweithredu cadarnhaol ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gan gyfeirio at gyflawniadau’r sefydliad, dywedodd Karen Balmer, Prif Swyddog Gweithredol Groundwork Gogledd Cymru: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a’r holl sefydliadau sy’n gwneud eu gorau i greu newid cymdeithasol ac economaidd ledled y Deyrnas Unedig. Roeddem wrth ein bodd i gyrraedd rhestr y 100 o fentrau cymdeithasol gorau yn y wlad am y 5ed flwyddyn yn olynol. Mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’r gwaith gwych mae ein timau yn ei wneud bob dydd.”
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar ran Pobl, Lleoedd a’r Blaned, er mwyn mynd i’r afael â materion pwysig fel newid hinsawdd, yr argyfwng costau byw, a’r heriau lles sy’n wynebu aelodau difreintiedig ein cymdeithas. Mae cyrraedd rhestr fer y gwobrau pwysig hyn yn cydnabod llwyddiant y sefydliad.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r elusen wedi sefydlu mentrau newydd ac adeiladu ar ei gwaith i gynyddu ei heffaith, er enghraifft, symud ymlaen â chynlluniau i adfywio asedau treftadaeth Dyffryn Clywedog yn Wrecsam er budd y gymuned leol, sefydlu sesiynau clwb cinio newydd ar gyfer pobl hŷn sy’n wynebu unigrwydd yn Sir y Fflint, ac ehangu ei darpariaeth hyfforddiant i gyrraedd rhagor o ddysgwyr ac amrywiaeth ehangach ohonynt.