Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Groundwork Gogledd Cymru ymhlith y 100 o fentrau cymdeithasol gorau am y 5ed flwyddyn yn olynol.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Groundwork Gogledd Cymru ymhlith y 100 o fentrau cymdeithasol gorau am y 5ed flwyddyn yn olynol.
Pobl a lle

Groundwork Gogledd Cymru ymhlith y 100 o fentrau cymdeithasol gorau am y 5ed flwyddyn yn olynol.

Diweddarwyd diwethaf: Awst 15, 2024 2:23 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Groundwork Gogledd Cymru ymhlith y 100 o fentrau cymdeithasol gorau am y 5ed flwyddyn yn olynol.
RHANNU

Erthygl Gwadd – Groundwork

Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi cyrraedd rhestr y 100 o fentrau cymdeithasol gorau yn y Deyrnas Unedig, sef NatWest SE100 Index 2024, am y 5ed flwyddyn yn olynol.


Sefydlwyd rhestr NatWest SE100 Index yn 2010 gan Pioneers Post a NatWest i gydnabod a gwobrwyo’r 100 o fentrau cymdeithasol gorau yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Cafodd yr enillwyr ar restr SE100 eleni eu dewis yn ôl meini prawf gwahanol i adlewyrchu eu busnes a’u heffaith, a chafodd mentrau cymdeithasol eu hasesu yn ôl meysydd fel perfformiad ariannol, pa mor drylwyr maent yn mesur ac yn rheoli eu heffaith, a’u hymrwymiad i faterion hinsawdd a gweithredu cadarnhaol ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth.


Gan gyfeirio at gyflawniadau’r sefydliad, dywedodd Karen Balmer, Prif Swyddog Gweithredol Groundwork Gogledd Cymru: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a’r holl sefydliadau sy’n gwneud eu gorau i greu newid cymdeithasol ac economaidd ledled y Deyrnas Unedig. Roeddem wrth ein bodd i gyrraedd rhestr y 100 o fentrau cymdeithasol gorau yn y wlad am y 5ed flwyddyn yn olynol. Mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’r gwaith gwych mae ein timau yn ei wneud bob dydd.”


Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar ran Pobl, Lleoedd a’r Blaned, er mwyn mynd i’r afael â materion pwysig fel newid hinsawdd, yr argyfwng costau byw, a’r heriau lles sy’n wynebu aelodau difreintiedig ein cymdeithas. Mae cyrraedd rhestr fer y gwobrau pwysig hyn yn cydnabod llwyddiant y sefydliad.


Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r elusen wedi sefydlu mentrau newydd ac adeiladu ar ei gwaith i gynyddu ei heffaith, er enghraifft, symud ymlaen â chynlluniau i adfywio asedau treftadaeth Dyffryn Clywedog yn Wrecsam er budd y gymuned leol, sefydlu sesiynau clwb cinio newydd ar gyfer pobl hŷn sy’n wynebu unigrwydd yn Sir y Fflint, ac ehangu ei darpariaeth hyfforddiant i gyrraedd rhagor o ddysgwyr ac amrywiaeth ehangach ohonynt.

Rhannu
Erthygl flaenorol free workshop, Wrexham businesses, Wrexham business owners, export your website workshop Mae arolwg busnes yn anelu i adeiladu ar gynnig gwerth cymdeithasol y rhanbarth
Erthygl nesaf Britain in Bloom Croeso i Wrecsam i Feirniaid Prydain yn ei Blodau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English