Mae’n haws nag erioed i bobl dderbyn gwybodaeth yn gyflym, gyda newyddion ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol yn hawdd eu cyrraedd, ond gan fod nifer o’r llwyfannau hyn yn ofodau heb eu rheoleiddio, gall arwain at ledaenu ‘camwybodaeth’.
Beth yw ‘camwybodaeth’?
Yn syml, camwybodaeth yw pan fydd gwybodaeth anghywir neu ffug yn lledaenu’n gyflym….a gall hyn achosi niwed difrifol.
Gyda bron hanner poblogaeth Cymru yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer eu newyddion, mae’n bwysig bod pobl yn sylweddoli sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth a chamwybodaeth. Os na wnewch hyn, gallwch chi rannu camwybodaeth hefyd!
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Sut mae hyn yn digwydd?
Yn gyntaf, dylid archwilio gwahanol fathau o gamwybodaeth, y gellir ei rannu yn bum categori.
• Camwybodaeth. Camwybodaeth yw gwybodaeth sy’n ffug neu’n anghywir. Gall fod ar ffurf nodyn ar gyfryngau cymdeithasol, darlun gwirioneddol neu wedi’i olygu, clip fideo, memyn neu stori newyddion. Gellir ei rhannu’n anfwriadol heb sylweddoli bod y wybodaeth yn ffug neu’n anghywir.
• Twyllwybodaeth. Mae twyllwybodaeth ar yr un ffurf â chamwybodaeth ond mae’n cael ei chreu’n fwriadol i dwyllo, camarwain a dylanwadu. Gallai hyn fod at ddibenion personol, gwleidyddol neu economaidd.
• Newyddion ffug. Mae ‘newyddion ffug’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cynnwys anghywir neu gamarweiniol sy’n aml yn syfrdanol neu’n emosiynol. Gall gynnwys camwybodaeth, twyllwybodaeth neu’r ddau.
• ‘Abwyd clicio’. Mae ‘Abwyd Clicio’ yn gynnwys megis pennawd, a ddyluniwyd i dynnu eich sylw a’ch annog i glicio ar ddolen sy’n mynd â chi i gynnwys ar-lein arall e.e. erthygl, llun neu fideo.
• ‘Ffugio dwfn’. Mae ‘ffugio dwfn’ yn cyfeirio at lun neu fideo lle mae’r wynebau wedi’u cyfnewid, neu eu haddasu’n ddigidol. Gall creu delweddau ffug fel hyn ddangos bod rhywun yn dweud rhywbeth neu wneud rhywbeth na wnaethon nhw ei ddweud na’i wneud.
Adnabod camwybodaeth
Ac mae hyn yn arwain ymlaen at y gwahanol ffyrdd o adnabod camwybodaeth. Mae sawl ffordd o wneud hyn. ..
• Ystyried y ffynhonnell. A yw’n ddibynadwy neu gredadwy? Pwy greodd y wybodaeth a beth yw eu cymhellion? Beth yw bwriad y wybodaeth? A yw’r parth neu enw’r URL yn edrych yn rhyfedd neu’n debyg i wefan adnabyddus arall? Dyma’r cwestiynau y dylech ofyn i chi eich hunan.
• Ystyried yr arddull. Gall camwybodaeth gael ei hysgrifennu i dynnu sylw ac annog pobl i’w rhannu. A yw’r pennawd yn creu syndod neu’n ysgogi eich emosiynau? Ystyriwch a yw wedi’i ysgrifennu fel ffaith, barn neu barodi? Ai ‘abwyd clicio’ ydyw? Darllenwch yr erthygl llawn, nid y pennawd yn unig.
• Gwiriwch sawl ffynhonnell. Gwiriwch gywirdeb y stori drwy gymharu gyda ffynonellau eraill. Ydi pob un yn dweud yr un peth?
• Gwiriwch y ffeithiau. Mae nifer o wefannau annibynnol i wirio ffeithiau, fel Full Fact neu Snopes , sy’n archwilio ac adolygu gwybodaeth ar faterion poblogaidd a thestunol.
Pam mae’n bwysig?
Mae’n hynod bryderus pan fydd pobl yn seilio eu penderfyniadau ar wybodaeth ffug neu gamarweiniol. Enghraifft o hyn yw dewisiadau iechyd, a all fod yn hynod beryglus.
Ffyrdd y gall camwybodaeth achosi niwed:
• annog pobl i wneud penderfyniadau a allai niweidio eu hiechyd neu iechyd pobl eraill
• annog pobl i wneud penderfyniadau economaidd neu ariannol niweidiol
• tanseilio parch a goddefgarwch tuag at bobl eraill neu hybu gwahaniaethu neu gasineb
• niweidio iechyd meddwl neu gyflwr meddyliol pobl (er enghraifft drwy achosi gorbryder neu straen)
• niweidio ymddiriedaeth neu danseilio cyfranogiad mewn sefydliadau a phrosesau cymdeithasol neu ddemocrataidd (megis etholiadau)
• tanseilio hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ffynonellau newyddion a gwybodaeth
• creu dryswch, ansicrwydd neu amheuaeth ynghylch digwyddiadau neu dueddiadau hanesyddol, presennol neu yn y dyfodol, gan arwain at benderfyniadau neu weithredoedd niweidiol.
Byddwch yn hynod ofalus o’r wybodaeth yr ydych yn ei rhannu. Hyd yn oed wrth wneud eich gorau, mae’n hawdd rhannu rhywbeth ffug neu gamarweiniol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Hwb ‘Atal camwybodaeth rhag lledaenu’.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF