Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dydd Gŵyl Dewi 2026 i fod y “mwyaf cofiadwy eto” meddai’r Prif Weinidog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dydd Gŵyl Dewi 2026 i fod y “mwyaf cofiadwy eto” meddai’r Prif Weinidog
ArallDigwyddiadau

Dydd Gŵyl Dewi 2026 i fod y “mwyaf cofiadwy eto” meddai’r Prif Weinidog

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 23, 2025 12:18 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
St David's Day
RHANNU

Erthygl wadd gan Lywodraeth Cymru

Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cronfa newydd i gymunedau ledled Cymru i’w helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer gweithgareddau sydd â’r nod o ddod â chymunedau at ei gilydd o amgylch diwrnod nawddsant Cymru, Dewi Sant, ar 1 Mawrth, 2026. Gallai gweithgareddau gynnwys gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol, gweithdai cymunedol, dawnsio gwerin Cymreig traddodiadol neu ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar fwyd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2026. 

Bydd sefydliadau yn gallu gwneud cais am dair lefel o gyllid, o grwpiau cymunedol bach i sefydliadau cenedlaethol mawr.

Gall grwpiau lleol wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000 i gyflwyno digwyddiadau lleol neu gymunedol. Bydd hyd at £20,000 ar gael i sefydliadau rhanbarthol, fel awdurdodau lleol, a hyd at £40,000 i sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno gweithgareddau ledled y wlad.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:  “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu tapestri traddodiadau unigryw a chyfoethog Cymru. O eisteddfodau ysgol i orymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi, mae pobl ledled Cymru a ledled y byd yn dod at ei gilydd i ddangos y gorau o’n diwylliant a chymaint mwy sydd gan Gymru i’w gynnig.

“Rydym yn genedl hynod falch – rydym yn cefnogi’r Cymry mewn digwyddiadau chwaraeon mawr, rydym yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith ac rydym yn byw ein bywydau bob dydd mewn ffordd unigryw Gymreig.

“Bydd gweithgareddau ychwanegol y flwyddyn nesaf yn dathlu ein hysbryd, ein balchder a’r undod sy’n ein diffinio. Rydym am i bawb deimlo’n rhan o’r digwyddiad hwn – gan rannu straeon, cymryd rhan yn ein traddodiadau a dathlu’r Gymru fodern rydym yn falch o’i galw’n gartref. 

“Gadewch i ni wneud Dydd Gŵyl Dewi 2026 y mwyaf cofiadwy eto – yn adlewyrchiad gwirioneddol o bwy ydym, o ble rydym yn dod, a beth sy’n gwneud Cymru yn genedl mor wych.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am y Gymraeg: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol dinas Wrecsam bob amser yn ddathliad mawr, a bydd y grantiau hyn yn golygu y bydd grwpiau a chymunedau unigol yn gallu cymryd rhan yn y dathliad ar garreg eu drws. Edrychaf ymlaen at glywed am y digwyddiadau a fydd yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol ac, yn arbennig, yr holl wahanol ffyrdd y mae diwrnod ein nawddsant yn cael ei ddathlu ac yn dod â chymunedau Wrecsam at ei gilydd.”

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ailgylchu eich ceblau diangen Ailgylchu eich ceblau diangen
Erthygl nesaf View of the entrance to the Wrexham library Digwyddiadau hanner tymor yn llyfrgelloedd Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English