Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pedair gwlad yn uno i eirioli dros moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Pedair gwlad yn uno i eirioli dros moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus
Arall

Pedair gwlad yn uno i eirioli dros moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2025 3:42 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mobile phone
RHANNU

Cymdeithasau Llywodraeth Leol o bob rhan o’r DU yn ailddatgan ymrwymiad i ddiogelu cyfranogiad democrataidd…

Mae’r Cymdeithasau Llywodraeth Leol sy’n cynrychioli Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr — y CLlLC, NILGA, COSLA a’r LGA — wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi datganiad ar y cyd ar bwysigrwydd moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus, gan fod bygythiadau, camdriniaeth ac aflonyddu yn erbyn cynghorwyr a swyddogion wedi dod yn fwy cyffredin.

Mae cymunedau lleol yn ffynnu pan fydd pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cynnwys ac yn cael eu gwerthfawrogi. Fodd bynnag, mae pob un o’r pedair cymdeithas wedi mynegi pryder dwfn am y lefelau cynyddol o gamdriniaeth chwerw, ymosodiadau personol a chamwybodaeth – yn enwedig ar-lein – sy’n gyrru rhai cynghorwyr allan o fywyd cyhoeddus ac yn atal eraill rhag sefyll mewn etholiadau.

Rhaid i gynrychiolwyr etholedig arwain drwy esiampl, gan fodelu’r ymddygiadau cadarnhaol sy’n cefnogi trafodaeth gyhoeddus gadarn ond barchus. Er bod craffu a dadl deg yn hanfodol mewn democratiaeth iach, nid oes lle i gamdriniaeth, bygythiadau nac aflonyddu mewn bywyd cyhoeddus.

Mae’r LGA, NILGA, COSLA a’r CLlLC hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth â’r llywodraethau datganoledig, cymdeithasau llywodraeth leol a’r heddlu i fynd i’r afael â chamdriniaeth ac aflonyddu sy’n wynebu unrhyw un mewn bywyd cyhoeddus – boed yn swyddogion, yn ymgeiswyr neu’n wleidyddion etholedig.

Mae’r pedair cenedl yn sefyll gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag ymddygiad camdriniol, gwrthsefyll camwybodaeth, ac i gefnogi cynghorau a chynghorwyr fel y gallant barhau i wasanaethu eu cymunedau gyda hyder ac urddas.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llywydd y CLlLC: “Mae democratiaeth yn dibynnu ar bobl sy’n fodlon rhoi eu hunain ymlaen i wasanaethu eu cymunedau, ac mae hynny’n digwydd dim ond pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn ddiogel i wneud hynny.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gadw’r ddadl yn iach ac yn adeiladol. Mae’n iawn anghytuno, ond dylid gwneud hynny bob amser gyda pharch. Pan fyddwn yn gwrando, yn herio’n deg, yn gwirio cywirdeb yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei rannu ar-lein, ac yn trin ein gilydd yn dda, rydyn ni’n creu’r math o ddiwylliant sy’n annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.”

Rhannu
Erthygl flaenorol warm places Ydych chi’n gallu cynnig man cynnes?
Erthygl nesaf Ofalu am ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed wrth i'r clociau newid Ofalu am ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed wrth i’r clociau newid

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English