Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwahoddiad i wneud cais i fod yn rhan o Fwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > Gwahoddiad i wneud cais i fod yn rhan o Fwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam
Yn cael sylw arbennigPobl a lle

Gwahoddiad i wneud cais i fod yn rhan o Fwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 11, 2023 1:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwahoddiad i wneud cais i fod yn rhan o Fwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam
RHANNU

Mae Dinas Diwylliant yn gystadleuaeth a gynhelir bob pedair blynedd gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ble rhoddir teitl “Dinas Diwylliant” i ddinas, tref neu ranbarth yn y DU.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Mae’r gystadleuaeth yn defnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn y gymuned.

Llynedd fe gyrhaeddodd ‘Wrecsam’ gamau olaf y gystadleuaeth gan ddod yn ail i Bradford, a fydd yn cynnal Dinas Diwylliant 2025. Mae’n siŵr eich bod chi wedi gweld ein logo lliwgar yn ogystal â’r hashnod #Wrecsam2025 a dderbyniodd dros 7 miliwn o argraffiadau ar-lein! Fe gewch chi flas ar rai o’n gweithgareddau ar gyfer cais 2025 yn yr erthygl – Cais Dinas diwylliant- Stori Wrecsam hyd yn hyn.

Ar ôl gweld manteision diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd cystadlu a derbyn y teitl hwn, penderfynwyd yn reit sydyn y byddai Wrecsam yn cystadlu eto yn 2029.

Rydym ni rŵan yn chwilio am unigolion i fynegi diddordeb mewn bod yn rhan o fwrdd Dinas Diwylliant dros dro – bydd y Bwrdd yn goruchwylio ac yn llywio gwaith ymgyrch Dinas Diwylliant Wrecsam o ddechrau 2023 tan sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol Ddiwylliannol newydd ddechrau 2024.

Mae bod yn rhan o’r bwrdd dros dro yn golygu y bydd eich stiwardiaeth, eich syniadau a’ch penderfyniadau yn helpu i godi dyheadau o ran yr hyn a allwn gyflawni fel cymuned.

Rydym ni’n chwilio am unigolion medrus sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol i wneud penderfyniadau allweddol, i ddatblygu strategaethau ac i lywio cyfeiriad a naratif ymgyrch Wrecsam2029.

Bydd y bwrdd dros dro yn cynnwys rhwng 8 a 12 aelod gyda phrofiad yn y meysydd canlynol:

  • Celfyddydau a Diwylliant
  • Cysylltiadau Rhyngwladol
  • Busnes, Diwydiant, Lletygarwch a Thwristiaeth
  • Addysg a Sgiliau
  • Cyrff Cyhoeddus e.e. y Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Gweithwyr Proffesiynol y Wasg

Bydd panel o aelodau Grŵp Gweithredol Dinas Diwylliant Wrecsam yn llunio rhestr fer o’r cyflwyniadau ysgrifenedig ac yn cynnal cyfweliadau cyn cadarnhau’r aelodau terfynol.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r bwrdd dros dro, yna hoffem glywed gennych chi!

Gallwch ddarllen mwy am rôl y bwrdd yn y telerau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi gyflwyno datganiad o ddiddordeb a CV, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: Wrecsam2029@wrexham.gov.uk

*Fe allwch chi hefyd ymgeisio drwy anfon fideo i wrecsam2029@wrexham.gov.uk (at ddibenion hygyrchedd)

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Horizon Garden Gardd Gorwelion – Ein harddangosfa newydd, yn archwilio buddion lles natur
Erthygl nesaf Black bin bags containing general waste Peidiwch â gadael gwastraff ychwanegol wrth ymyl eich bin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English