Mae ‘Wal Pawb’ yn gomisiwn blynyddol o chwe gwaith celf i’w harddangos ar draws dau fwrdd poster triphlyg.
Mae’r chwe gwaith celf newydd ‘Wal Pawb’ wedi cael eu creu gan yr artist, Alan Dunn. Maent yn “ddathliad o fasnachwyr, aelodau’r gymuned a staff Tŷ Pawb y tu ôl i’r llenni.”
Mae’r chwe dyluniad newydd wedi cael eu dylunio dros 12 mis mewn cydweithrediad gydag artistiaid Natasha Borton a Meilir Tomos, marchnadwyr, staff ac ymwelwyr Tŷ Pawb.
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Dywedodd Alan Dunn, “Fe ddechreuais ymweld â Tŷ Pawb ym mis gorffennaf 2021 gan fy mod eisiau crwydro ar ôl Covid i ddathlu bwyd a dychwelyd i gymdeithasu ‘go iawn’. Ers hynny at y gwaith terfynol, cefais anrhydedd o weithio’n agos gyda’r artistiaid Natasha Borton a Meilir Tomos a thrwyddyn nhw, fe gwrddais i ag amrywiaeth aruthrol o bobl ar draws Wrecsam, o fasnachwyr, staff ac ymwelwyr Tŷ Pawb. Cefais fy nharo ar unwaith gan egni a brwdfrydedd y dref (bryd hynny) oedd yn fy atgoffa o fy ninas enedigol sef Glasgow, ac yna Lerpwl lle rwyf wedi byw ers dros 25 mlynedd – dim llinellau rhwng artistiaid, cerddorion beirdd neu weithredwyr cymunedol. Roeddwn i eisiau dal y cyfan mewn pedwar gair a chwe llun.
Un diwrnod, roeddwn i’n eistedd yn cael paned o goffi o ‘Curry on the Go’ ac fe glywais i rywun yn dweud ‘supercalifragilisticexpialidocious’ a disgynnodd y prosiect i’w le – fe fyddem ni’n creu PEDWAR GAIR o Gymraeg, Saesneg, Portiwgaleg a Phwyleg oedd yn drawstoriad o fwyd, cerddoriaeth, barddoniaeth a’r holl straeon bach o Wrecsam mai dim ond ychydig fydd yn eu hadnabod. Roeddem ni eisiau i’r dyluniadau fod yr un mor feiddgar, fel llawes recordiau a hysbysfyrddau ar gyfer y bandiau rydym ni’n eu caru, gyda goleuadau dramatig, ystumiau sêr roc a chanolbwynt ar steil ‘Sgt Pepper’ sydd yn dathlu masnachwyr, aelodau’r gymuned a staff tu ôl i’r llenni yn Tŷ Pawb.”
www.typawb.wales/wal-pawb
Cofrestrwch rŵan
Cofrestrwch rŵan