Pwerdy diwydiannau creadigol
Mae’r gwaith o adnewyddu, adfer a diweddaru’r Hen Lyfrgell ar Sgwâr y Frenhines yn mynd yn ei flaen yn gyflym.
Bydd gan yr adeilad rhestredig Gradd II rôl newydd yng nghanol y ddinas fel pwerdy diwydiannau creadigol, gan ddarparu mannau rhentu hyblyg tymor hir a thymor byr i sefydliadau ac unigolion yn y sector a fydd yn rhoi hwb i uchelgeisiau creadigol a diwylliannol Wrecsam.
Ynglŷn â’r prosiect
Mae’r eiddo’n cynnwys tri llawr o ofod y gellir ei rentu i’w defnyddio fel gweithdai, cyfleusterau cynhyrchu, stiwdios recordio, swyddfeydd a mannau arddangos. Mae cynlluniau hefyd i’r adeilad gynnwys caffi gydag ardaloedd eistedd awyr agored.
Bydd yr Hyb Creadigol yn hwyluso cyfleoedd newydd ar gyfer carfan gynyddol o weithwyr creadigol proffesiynol ar draws Gogledd Cymru a bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng y sector, sefydliadau addysgol lleol a busnesau yn ogystal ag arddangos y celfyddydau a thechnoleg.
Mae astudiaethau’n dangos mai’r diwydiant creadigol yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf ac mae’n werth £1.4 biliwn mewn trosiant blynyddol i Gymru.
Disgwylir i’r gwaith i drawsnewid yr Hen Lyfrgell gostio ychydig dros £4 miliwn sy’n fuddsoddiad sylweddol arall yng nghanol dinas Wrecsam gyda’r cyllid yn dod o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ynghyd â chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol dros Asedau’r Cynghorydd, “Mae’r adeilad rhestredig Gradd II hwn yn rhan o dreftadaeth a hanes Wrecsam ac mae ei ddefnydd yn y dyfodol fel canolfan diwydiannau creadigol yn sicrhau bod yr adeilad amlwg hwn yng nghanol y ddinas yn rhan o’n dyfodol disglair.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, “Mae’r prosiect hwn yn un o’r ymrwymiadau niferus yr ydym wedi’u gwneud i fuddsoddi yn adeiladwaith ac isadeiledd canol ein dinas wrth i ni geisio tyfu fel dinas uchelgeisiol flaengar.”
Rhagor o wybodaeth
Wedi’i hariannu gan Andrew Carnegie, agorwyd yr Hen Lyfrgell yn swyddogol gan Syr Foster Cunliffe o Blas Acton ar 15 Chwefror 1907.
Adeiladwyd yr Hen Lyfrgell yn wreiddiol trwy ddefnyddio brics ag wyneb terracotta Rhiwabon a charreg Cefn, ynghyd â llechi Westmoreland a Bangor ar gyfer to’r adeilad.
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8068-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8006-1-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7949-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7954-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7958-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7969-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7965-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7960-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7972-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7974-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7973-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7977-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7985-683x1024.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7979-683x1024.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7986-683x1024.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_7991-683x1024.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8007-683x1024.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8022-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8031-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8045-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8037-1-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8048-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8060-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8064-683x1024.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8071-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8086-1024x683.jpg)
![Gwaith datblygu pwerdy diwydiannau creadigol canol y ddinas yn mynd yn dda yn yr Hen Lyfrgell](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/IMG_8089-1024x683.jpg)