Y llynedd, cafodd cynlluniau i ddymchwel adeilad Greenacres ar Ffordd Rhosddu eu cymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam.
Yn flaenorol, canfu Adolygiad Llety Swyddfa fod yr adeilad yn cael ei danddefnyddio, felly mae staff Gofal Cymdeithasol a oedd gynt wedi’u lleoli yn Greenacres wedi symud i swyddfa barhaol yng nghanol y ddinas, gan adael yr adeiladau’n wag a’r safle’n barod i’w ailddatblygu.
Mae’r safle bellach yn barod ar gyfer y broses ddymchwel, a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd.
Oherwydd ei fod mor agos at ganol y ddinas, mae’r safle’n ddelfrydol ar gyfer cynllun tai cymdeithasol.
Bydd y prosiect ailddatblygu’n cynnwys tua 58 o gartrefi newydd – a fydd yn un o brosiectau datblygu tai cymdeithasol mwyaf y Cyngor hyd yn hyn.
Mae hyn yn ailddatgan yr ymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy i ddeiliaid contract yn y dyfodol.
Bydd y gwaith dymchwel yn digwydd maes o law. Yn dilyn hyn, bydd proses dendro i ddod o hyd i bartner datblygu er mwyn dylunio ac adeiladu’r cartrefi newydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweinydd dros Dai a Newid Hinsawdd, “Mae hyn yn cynrychioli un o’r prosiectau ailddatblygu tai cymdeithasol mwyaf, mewn lleoliad gwych, gan gynnig cyfle unigryw i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel.
“Mae’n brawf clir o’n hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy. Mae’r gwaith dymchwel yn caniatáu i ni gynllunio ar gyfer cam nesaf y broses.”


