Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i Gymeradwyo – Carreg Filltir ar gyfer Cysylltedd Cynaliadwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i Gymeradwyo – Carreg Filltir ar gyfer Cysylltedd Cynaliadwy
ArallPobl a lle

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i Gymeradwyo – Carreg Filltir ar gyfer Cysylltedd Cynaliadwy

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 29, 2025 10:27 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ambition North Wales Logo
RHANNU

Erthygl Gwadd  – Uchelgais Gogledd Cymru

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi bod Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol ymlaen i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar draws y rhanbarth.

Wedi’i ddatblygu gan Uchelgais Gogledd Cymru – fel Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y rhanbarth, mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth feiddgar i wella cysylltedd, lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat a chefnogi twf cynhwysol.

Mae’r Cynllun yn amlinellu polisïau ac ymyriadau strategol tan 2030 ar draws gwahanol ddulliau trafnidiaeth, yn cynnwys teithio llesol. Ei nod yw sicrhau y bydd gan Ogledd Cymru rwydwaith trafnidiaeth integredig diogel, cynaliadwy, fforddiadwy, gwydn ac effeithiol – sy’n cefnogi twf economaidd, ffyniant i bawb ac yn hyrwyddo cynhwysiant a lles.

Bydd cynlluniau yn dechrau cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2026, gyda’r gwaith monitro ac adolygu yn cael ei arwain gan Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CBC.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig: “Mae hon yn foment bwysig i Ogledd Cymru. Mae’r Cynllun sydd wedi’i gymeradwyo yn adlewyrchu’r anghenion yn ein cymunedau a’r uchelgais i greu system drafnidiaeth sy’n gweithio i bawb – p’un a ydych yn cymudo, yn rhedeg busnes, yn teithio i wasanaethau hanfodol neu’n ymweld â’n rhanbarth hardd.

“Mae’r cynllun yn amlinellu’r dyheadau sy’n cyd-fynd â pholisi cenedlaethol, a amlinellwyd yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a gweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru. Bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn darparu dull cydlynol rhanbarthol i ddatblygu gwasanaeth trafnidiaeth strategol, integredig ar gyfer y rhanbarth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Banks, Is-gadeirydd y Pwyllgor: “Mae cymeradwyo’r Cynllun hwn yn adlewyrchu’r ymrwymiad a rennir i gyflawni system drafnidiaeth sydd, nid yn unig yn addas ar gyfer y dyfodol, ond hefyd yn deg, gwyrdd a hygyrch. Mae hyn yn ymwneud â chysylltu pobl a llefydd mewn ffyrdd sy’n cefnogi llesiant, cyfle a chynaliadwyedd ar draws Gogledd Cymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae cymeradwyo’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gam mawr ymlaen ar gyfer mwy o gydweithredu ar draws ein rhanbarthau yng Nghymru. Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi polisïau ar gyfer gweithredu Llwybr Newydd, ein strategaeth trafnidiaeth, gan awdurdodau trafnidiaeth leol ym mhob rhanbarth o Gymru. Byddwn yn darparu cyllid i helpu i gyflawni’r cynlluniau drwy ein Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol newydd. Bydd hyn yn sicrhau bod y buddsoddiad a wnawn mewn trafnidiaeth yn cael ei addasu i anghenion pob rhanbarth ac yn cael ei lywio gan y rhai sy’n adnabod y rhanbarth orau. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r pedwar rhanbarth ar y daith sydd o’n blaenau.”

Yn gynharach eleni, bu’r Cynllun yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos a roddodd wahoddiad i drigolion, busnesau, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr i helpu i siapio ei fersiwn derfynol.

I weld Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, fersiwn Hawdd ei Ddeall – a gynhyrchwyd gan Anabledd Dysgu Cymru, a’r dogfennau cysylltiedig, ewch i https://uchelgaisgogledd.cymru/trafnidiaeth-strategol

Rhannu
Erthygl flaenorol building with fencing surrounding Gwaith dymchwel i ddechrau ar gyfer prosiect ailddatblygu tai cymdeithasol mawr yn Wrecsam
Erthygl nesaf Holding hands Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr: cydnabod, cefnogi a grymuso

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English